Tusw o flodau hafaidd yn cael eu cario gyda phlentyn yn sefyll o'u blaenau

Mae Cyflwynydd y Flodeuged yn chwarae rhan amlwg yn seremonïau Gorsedd Cymru yn ystod wythnos yr Eisteddfod a seremoni'r Cyhoeddi ar 17 Mai 2025.  Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd, Sir Benfro ym mis Awst 2026.

Rydyn ni'n chwilio'n benodol am berson ifanc sy'n:

  • Byw neu'n dod o ardal yr Eisteddfod, ac yn mynychu ysgol neu goleg yn y fro;
  • Awyddus i gefnogi ein gwaith o hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant, ac yn gallu dangos sut maen nhw'n gwneud hyn;
  • Gallu symud yn urddasol a gosgeiddig i gerddoriaeth araf y delyn a llefaru ar eu cof, mewn llais clir a chroyw, eiriau'r cyflwyniad, sef:

"Hybarch Archdderwydd, yn enw ieuenctid ein gwlad,
gofynnwn i ti dderbyn y rhodd hon o gynnyrch tir a daear Cymru."

Gellir llogi'r wisg gan yr Orsedd, neu ddarparu gwisg mewn ymgynghoriad â'r Orsedd.

Cynhelir y clyweliad am 17:00-19:00 nos Lun 3 Chwefror yn Neuadd y Farchnad, Crymych, gydag ail gyfweliad o 17:00-19:00 nos Lun 10 Chwefror, hefyd Neuadd y Farchnad, Crymych.

Rydym yn croesawu ceisiadau'n arbennig gan ymgeiswyr anabl ac o bob cefndir ethnig ar gyfer y rôl.

Dyddiad cau: 23 Ionawr 2025.

Sut ydych chi'n hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant yn gymdeithasol neu wrth eich gwaith? Nodwch eich diddordebau personol (hyd at 200 gair)