Mae'r Macwyaid yn gweini ar Gyflwynydd y Corn Hirlas. Gwahoddir bechgyn sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn 5 yn ysgolion y dalgylch i ymgeisio am y swyddi hyn trwy lenwi’r ffurflen isod a mynychu clyweliad.
Dyma gyfrifoldebau’r rhieni / gwarcheidwaid a’r bechgyn wrth ymgeisio a chyflawni’r gwaith:
- Rhaid i’r rhai a ddewisir fod yn byw yn nalgylch Eisteddfod 2026.
- Bydd y ddau facwy yn fechgyn o’r un taldra ac yn gallu symud yn urddasol i gerddoriaeth araf y delyn.
- Bydd yr Orsedd yn darparu gwisgoedd y Macwyaid, ond bydd rhaid iddynt hwy ddarparu eu hesgidiau eu hunain, yn ôl y patrwm a argymhellir gan yr Orsedd.
- Disgwylir i’r Macwyaid fynychu pob ymarfer a drefnir, a bod yn bresennol yng Ngŵyl Cyhoeddi’r Eisteddfod, ar 17 Mai 2025 ac wedyn yn ystod wythnos yr Eisteddfod ddechrau Awst 2026.
- Cyfrifoldeb y rhieni / gwarcheidwaid fydd cludo’r bechgyn i’r ymarferion ac i’r seremonïau. Y rhieni / gwarcheidwaid hefyd fydd yn gyfrifol amdanynt ar ddiwrnodau’r seremonïau.
- Bydd yr Eisteddfod yn darparu tocyn mynediad i’r Eisteddfod i’r bechgyn ar ddiwrnodau’r seremonïau, ond bydd rhaid i’r rhieni / gwarcheidwaid brynu eu tocyn eu hunain.
Cynhelir y clyweliad am 17:00-19:00 nos Lun 3 Chwefror yn Neuadd y Farchnad, Crymych, gydag ail gyfweliad o 17:00-19:00 nos Lun 10 Chwefror, hefyd yn Neuadd y Farchnad.
Dyddiad cau: 23 Ionawr 2025.