Nerea Martinez de Lecea – enillydd Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain
4 Awst 2018

Artist o’r Rhondda sy’n creu delweddau digidol sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Eleni gwahoddwyd Karen MacKinnon, Cyfarwyddwr Artes Mundi;  Ingrid Murphy o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a’r artist berfformans Marc Rees i ddethol yr Arddangosfa Agored a dyfarnu’r gwobrau. Roeddynt yn unfryd y dylid dyfarnu’r anrhydedd ynghyd â’r wobr ariannol lawn o £5,000 i Nerea Martinez de Lecea.

Yn ôl Karen MacKinnon ar ran y detholwyr, “Yn gynnar iawn yn ein trafodaethau a’n hystyried cafodd y tri ohonom ein gwefreiddio gan waith Nerea Martinez de Lecea – enillydd Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain eleni. Crëir ei ‘phaentiadau’ Photoshop drwy osod lliw fflat yn haenau ar yr arwyneb a defnyddio offer brwsh i ychwanegu, cyfuno a symud y paent i ddynwared paentio ‘go iawn’.

Nid dim ond y cyflawniad dawnus ond y cynnwys rhyfeddol, y portreadu sy’n gwrthod dadlennu’r portread cyflawn. Gwelwn gyrff, dillad ac osgo’r person ond mae’r pen a’r wyneb wedi ei rwbio allan. Mae rhywbeth sinistr yn y dileu hwn.  Nid yn unig fod y berthynas rhwng y gwyliwr a’r ddelwedd yn cael ei tharfu arni ond hefyd y berthynas rhwng yr artist a’r model. Mewn byd o ystumio digidol mae ei gwaith yn codi cwestiynau am hunaniaeth, dilysrwydd a tharfu.”

Mae ystod ymarfer Nerea Martinez de Lecea yn rhychwantu  ffotograffiaeth, fideo, gwaith gosod a lluniadu ac, yn ddiweddar, paentio digidol. Mae’r artist wedi hen ymgartrefu yn Nhreorci ac nid yw’n ddieithr i’r Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd wobr ariannol yn yr adran Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Blaenau Gwent yn 2010 ac mae wedi arddangos yn Y Lle Celf ym Mro Morgannwg 2012 a Maldwyn 2015 ers hynny.

Mae cyfres delweddau ‘Plentyn A’ Nerea Martinez de Lecea i’w gweld yn Y Lle Celf sydd wedi’i leoli yn adeilad y Senedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Yn ogystal, mae hi’n paratoi arddangosfa unigol a fydd yn cael ei chynnal yn oriel TEN yn y brifddinas y flwyddyn nesaf.

Gwefan Nerea Martinez de Lecea: www.icantnot.com

Gwireddir Arddangosfa Agored Y Lle Celf mewn partneriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.