Zoe Preece
4 Awst 2018

Artist cerameg sy’n gweithio â phorslen a phren sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Eleni gwahoddwyd Karen MacKinnon, Cyfarwyddwr Artes Mundi;  Ingrid Murphy o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a’r artist berfformans Marc Rees i ddethol yr Arddangosfa Agored a dyfarnu’r gwobrau. Roeddynt yn unfryd y dylid dyfarnu’r anrhydedd ynghyd â’r wobr ariannol lawn o £5,000 i Zoe Preece.

Nid yw’r artist yn ddieithr i’r Eisteddfod chwaith - roedd ganddi grochenwaith yn Arddangosfa Agored Wrecsam 2011, Sir Gâr 2014 a Maldwyn 2015. Mae Zoe Preece, sy’n byw ym Mhenarth, yn dilyn llinach o artistiaid cerameg o stiwdio Fireworks yn y Brifddinas sydd wedi ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio

Yn ôl Karen MacKinnon ar ran y detholwyr,  “Gyda gwaith Zoe Preece mae fel petai gofod domestig bob dydd y gegin wedi dod yn lledrithiol - llwy yn crogi yn yr aer, yn llawn i’r ymylon, cwpanau wedi eu llwytho’n sigledig yn barod i gwympo a malu’n deilchion, mae cytleri a chyllell yn rhan o’r bwrdd pren wedi’u hasio, ac nid ar wahân iddo.

Mae rhywbeth annaearol am y sefyllfa ddomestig y mae’n ei chreu. Mae gwaith Zoe Preece wedi’i greu yn goeth ac mae ei elfen ddomestig i’w weld ar unwaith ond eto wedi’i darfu arno, nid yw pethau’n hollol iawn, llwyau yn crogi yn yr aer, offer cegin wedi dod yn rhan o’r bwrdd ac mae diffyg pobl yn awgrymu ein bod yn dystion i’r eiliad ar ôl y parti neu fod rhywbeth brawychus wedi digwydd.”

Yn ogystal, dyfarnwyd Gwobr Bwrcasu Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru i Zoe Preece ac ychwanegir y gwaith a brynir at gasgliad Amgueddfa Cymru.

Mae ‘Presenoldeb Materol’ Zoe Preece i’w gweld yn Y Lle Celf sydd wedi’i leoli yn adeilad y Senedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Gwefan: http://zoepreece.com

Gwireddir Arddangosfa Agored Y Lle Celf mewn partneriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.