Gwaith Gweni Llwyd
4 Awst 2018

Artist delweddau symudol o Ddyffryn Nantlle sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. 

Dyfarnwyd y £1,500 i Gweni Llwyd, 23 oed am ei chyfres o ffilmiau byrion yn dwyn y teitlau ‘Gro Chwipio’, ‘O.S.B’, ‘Llwch’ ac ‘Artecs’.

Dyfarnwyd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc eleni gan Karen MacKinnon, Cyfarwyddwr Artes Mundi;  Ingrid Murphy o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a’r artist berfformans Marc Rees. Amcan yr ysgoloriaeth yw galluogi’r enillydd i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr.

Yn ôl Karen MacKinnon ar ran y detholwyr, “Mae Gweni  Llwyd yn artist ifanc heriol sy’n adnabod byd heddiw i’r dim ac roeddem yn awyddus iawn i’w chefnogi wrth iddi symud ymlaen gyda’i harchwiliadau. Mae fel petai’n ceisio gwneud synnwyr a churadu’r llwyth o wybodaeth rydym yn palu drwyddi bob dydd i greu ystyron a llwybrau newydd i wahanol ffyrdd o weld.

Drwy ei gweithiau fideo mae’n ein peledu ni gyda llwyth o ddelweddau sy’n ymddangosiadol ddigyswllt a naratifau o’n hoes ddigidol. Llyfrynnau cyfarwyddyd, lluniau o anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill, pethau blewog, pryfed, eiliadau dwfn, trosiadau o wryweidd-dra a benyweidd-dra wedi’u gosod gyda ac yn erbyn ei gilydd.”

Mae Gweni Llwyd, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn bwriadu defnyddio’r arian yn dilyn cwrs er mwyn datblygu ei sgiliau wrth ymdrin â delweddau symudol. Yn ogystal â chyflwyno ei gwaith yn Y Lle Celf eleni, mae’r enillydd  yn derbyn gwahoddiad i arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy y flwyddyn nesaf.

“Rwy’n cael fy symbylu gan atgofion ac yn chwilio archifau agored er mwyn casglu delweddau, clipiau fideo, sain a GIFs i’w defnyddio gyda gwaith fideo, ffotograffau a sain fy hun,” meddai’r artist. “Wrth ymdrin â chynhyrchu fideo fel gludwaith, rwy’n ceisio dosbarthu a churadu arteffactau digidol er mwyn creu naratifau haniaethol.”

Wedi graddio mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd)  y llynedd, ddiwedd y flwyddyn aeth ymlaen i ennill gwobr Artist Ifanc NOVA.

Gwefan: www.gwenillwyd.com

Rhoddir Ysgoloriaeth Artist Ifanc Caerdydd 2018 er cof am Aneirin a Mari Talfan Davies gan Elinor a Geraint.