Helen Williams yw enillydd Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Cyflwynwyd y wobr iddi yn Shw’mae Caerdydd Dysgu Cymraeg / Learn Welsh ar Faes yr Eisteddfod yn un o seremonïau cyntaf yr wythnos, ddydd Sadwrn 4 Awst.
Cyflwynir y wobr hon i diwtor Cymraeg sydd yn neu wedi gwneud cyfraniad nodedig i faes Cymraeg i Oedolion, a rhoddir y wobr eleni gan Rhiannon Gregory.
Mae Helen Williams wedi gweithio ym maes Cymraeg i Oedolion ers 1985, ac wedi gweithio fel tiwtor yng Nghaerdydd, Abertawe, Ceredigion a Sir Benfro.
Ar hyn o bryd, mae Helen yn gweithio fel Prif Diwtor i Ddysgu Cymraeg Sir Benfro, un o ddarparwyr newydd y Ganolfan Gymraeg Cenedlaethol. Chwaraeodd hi ran allweddol yn sefydlu maes Cymraeg i Oedolion yn Sir Benfro, ac mae ganddi brofiad helaeth o ddysgu Cymraeg i Oedolion ar bob lefel.
Mae cannoedd o ddysgwyr wedi elwa o’i phrofiad a’i chymorth dros y blynyddoedd, gyda’i ffordd ddiymhongar, broffesiynol wrth hyfforddi tiwtoriaid newydd a phrofiadol yn golygu bod safon y tiwtoriaid wedi cynyddu yn sylweddol dros y cyfnod.
Yn ogystal ag ysbrydoli tiwtoriaid, mae Helen hefyd wedi ysbrydoli cenedlaethau o ddysgwyr, gyda nifer ohonyn nhw erbyn hyn yn rhugl a rhai yn diwtoriaid eu hunain. Eto mae ei ffordd ymroddedig, broffesiynol yn y dosbarth yn ysbrydoli dysgwyr i barhau i ddysgu o flwyddyn i flwyddyn.
Mae Helen hefyd yn arwain ei dysgwyr tu allan i’r dosbarth hefyd trwy fynychu digwyddiadau allgyrsiol i gefnogi dysgwyr megis nosweithiau llawen, cwisiau a sesiynau Ffrindiaith.
Cyflwynir y Tlws er cof am Elvet a Mair Elvet Thomas. Fel athro yn Ysgol Cathays, ysbrydolodd Elvet Thomas genedlaethau o ddisgyblion, y mwyafrif o gartrefi di-gymraeg, i ddysgu’r iaith yn rhugl. Sefydlodd Adran o'r Urdd yn yr ysgol yn y 1920au, ac fe daflodd ei hun i mewn i holl weithgareddau'r mudiad yn y cyfnod cynhyrfus hwnnw.
Cynhelir y seremoni yn Shw’mae Caerdydd am 13:00.