6 Awst 2018

Casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau: Olion

OLION

 

Hyrddiadau

 

Mae 'na wynt ynddi

a thonnau bychain afon Taf fel pebyll

yn cael eu hyrddio ar eu hochrau.

Prismau'n bodolaeth

yn diflannu yn ôl i'r düwch heb adael ôl.

 

Dim ond y gwynt sy'n gyson

a'i biffian dros y tir

fel un a ŵyr y gwir.

Gwybod, serch ein hymdrechion ffuantus

nad ŷm ond crwyn brau

sy'n chwythu mor boenus ysgafn â phapur tisw

ar hyd wyneb y dŵr

cyn rhwygo.

 

Ai'r gwynt sy'n ein creu,

yn ein plycio o'r gwlypteroedd

er mwyn blasu melynwy'r haul am blwc?

Ac i ba le yr aiff ein hatgofion llachar wedi inni dewi –

yn ôl i'r dŵr du gyda ni?

 

 

 

Dere i fferm y Grange

 

Dere ar daith, fy nghariad,

dala'n dynn yn fy llaw.

Naw wfft i'r sglodion yn y ffwrn,

gwishg dy gôt a der i ben draw'n pentref ni,

i fferm y Grange.

 

Dere i wrando ar y waliau'n

sibrwd hanesion newydd wrthom.

Paid â becso am y swper –

dyma gyfle cariadon ifanc yn eu henaint

i hawlio'r eiliadau.

 

Dacw hi'r fferm!

Doda dy fysedd yn dyner ar y cerrig oer.

Bu mynachod yma unwaith

ac yn ddiweddarach

roedd Cainc yr Aradwr yn troi'r menyn

a'n hiaith ni'n gymysg â'r llaeth enwyn.

Weli di? Ei bod hi'n perthyn?

Hi oedd dechreuadau ein dinas ni –

ein gwawr fawr felen.

 

Mae'n cnoi'n sydyn a'r gwynt yn codi,

felly dala fy llaw eto, nei di?

Cledr yn erbyn cledr,

bysedd rhwng bysedd.

Crwydrwn lannau'r Taf tuag adref

a'n gwres, drwy'n gilydd, yn herio'r oerni.

 

 

 

Mae Ahmed yn siarad Cymraeg

 

Ydy, mae'n noson flasus o wanwyn, Ahmed

ond chei di ddim cicio'r bêl yn erbyn wal y garej mwyach.

Mae Osian wedi hen fynd i'w wely, fel mae'n rhaid i tithe.

Fi yw dy fam, sgen i ddim dewis ond syllu

i'r llygaid du a dweud y drefn, dy warchod ydw i.

 

Beth hoffet yn stori? Gallaf hudo'r Arabian Nights yn fyw iti,

neu gall Dad ddod at erchwyn y gwely i adrodd yr hadiths.

Neu beth am y llyfr lliwgar sy'n llawn Cymraeg?

Gall Mami lyncu print du'r geiriau Saesneg

a gelli di droi'n athro balch, fel rwyt mor hoff o wneud.

 

Dw i'n clywed y Gymraeg yn debyg i'r Arabeg, wyddost ti, Ahmed.

Yr 'ch' a'r sillafau sy'n cwato yn nyfnder dy lwnc.

Paid strancio, fy mychan tlws,

fe weli di Osian ar y buarth ben bore

a daw bwrw'r Sul cyn inni droi.

 

Heno, tynnwn y llenni'n dynn

a dwyn i gof y straeon sy'n ein harwain at fyd Huwcyn cwsg.

Man lle mae geiriau newydd y dydd yn dod i orffwys

cyn plannu eu hystyron yn nhiroedd dyfnion y cof.

Man lle mae Muhammad a'r Mabinogi

a Mami, Ahmed, yn dishgwl amdanat ti.

 

 

 

Elsbeth, sydd newydd ei geni

(Pentre Gardens, Grangetown)

 

Pan gyrhaeddaist ti o'r golau

a dodi dy dalcen yn erbyn f'un i

roedd olion hen wareiddiad ynot.

Hen wreigan newydd sbon

yn dod â hanes inni.

 

Ond fesul anadl

sylwais fod d'atgofion yn pylu

a bod bywyd wrthi'n dy rwydo'n gyfan i'r byd hwn.

 

A nawr yn sydyn, ry'n ni adre,

yn bwrw'n swildod fel pedwar

a'th lygaid yn chwilio doethineb dy rieni.

Oes mae 'na Osian, ond ymbalfalu ry'n ni, cred fi.

Pawb ohonom yn teithio'n bellach, fesul eiliad,

o'r man cychwyn hwnnw

sy'n llawn golau.

 

Ymlafniaf yn ôl drwy'r niwl

at y lleufer, Elsbeth.

A phan ddof o hyd iddo eto

trochaf ynddo

nes mod i'n socian llachar

ac yn goleuo'r hewl i ti.

 

 

 

Roedd fi

(Bethany Jones, Cornwall Street, Grangetown)

 

Mae fy 'roedd fi' yn rheg i rai,

yn cosbi eu clustiau

fel cefais i fy cosbi

am siarad Saesneg wrth cnoi gwm

yn portacabin fy plentyndod.

 

Poerais y Cymraeg mas gyda'r gwm

a'i sticio dan y bwrdd ...

nes y dest di

a c-sec dy sach yn dynn amdanat.

Roedd dy arogl fel y diwrnod cyntaf erioed –

fel y pridd a'r haul.

Ac roedd fi'n gwybod, o'r eiliad cyntaf,

taw Celyn fyddai dy enw.

 

Ti'n gweld, rwy'n cofio emyn Pantycelyn

yn y gwasanaeth.

Chwysu yn fy brethyn

a croesi coesau mor hir

nes nid fi oedd bia traed fi,

ond roedd geiriau'r dŵd yna dal yn catchy!

 

Heddiw rwy'n ymestyn at yfory

ac yn cnoi'r Cymraeg fel bubblegum yn ceg fi.

Edrych, Celyn!

Ar maint y swigen pinc mae Mami newydd chwythu!

 

 

 

Noson olaf Morfudd

(Pentre Gardens, Grangetown)

 

Gorffwys dy ben yn erbyn f'un i

a gad i hanes ein teulu lifo'n ddi-dor rhyngom.

Yn fuan, fe fydda i yn ôl gyda'r goleuni

a chyn pen dim, rwy'n gwybod, bydd Sarn wedi ei werthu.

Paid â gadael i dywyllwch amheuaeth dy lowcio,

ti'n fy nghlywed i?

 

Dyma'ch cartref nawr, dw i'n deall hynny.

Dyna pam y glaniais i

a chodi pabell.

Carco Osian wrth y tân

er mwyn i chi gael bwrw mla'n.

 

Cofia am Grib Fawnog, nei di?

A chofia jôcs Mam-gu.

Adrodd hanes y cwyr yn toddi dros fy sgert

wrth Osian

a dangos fapiau fy mebyd i Elsbeth.

Grangetown yw eu cae chwarae

ond mae 'na gaeau lu yn eu clytwaith

a'u gorllewin yn gry'.

Parc y bugel, ti'n cofio'r hanes,

lle ges i gusan fy ngwanwyn gan dy dad ...

 

Rwy'n gwanio

felly dala fi heno, fy merch.

Ydy, mae'n neud lo's ond gwna i mi wenu

drwy addo aredig ein straeon, nei di?

Oherwydd pan ddaw pelydrau'r tylw'th

i befrio ar lannau'r Taf

ambell bnawn,

fe fydd 'na fedi

ac am ennyd hefyd, fe fydda i.

 

 

 

Elaine

(Cambridge Street, Grangetown)

 

Mae 'na Gymraeg yn ei Saesneg

a'i halaw'n frith o hen drawiadau

na ŵyr amdanynt.

Fflachiadau cyson

sy'n ceisio cynnau coelcerth y co'.

 

Wrth groesi'r strydoedd am y swyddfa

daw Cymraeg pobol eraill i'w chlyw

ac Elaine yn fud

fel y coed sydd newydd eu plannu

i wella safon byw.

 

Yn achlysurol, ar ôl cinio

mae'r felan yn llamu i'w stwmog

fel cadno

a daw cnoadau cywilydd

sy'n anodd eu hesbonio –

ai dyma sut mae iaith yn ffarwelio?

 

Fel chwilod yn cythru drwy'r dail

mae'r llythrennau'n rhuthro heibio,

heb yn wybod i un

sy'n deall fod rhywbeth o'i le

ond yn methu'n lân ag egluro.

 

Ry'n ni wedi colli Elaine

ac mae ei henaid yn udo.

 

 

 

Jentrifficeshyn

(Tafarn y Grange, Grangetown)

 

Madde i fi, dros beint fel hyn,

am gorddi'r dyfroedd

ond nid ni yw'r werin datws nawr, nace?

Ni sy'n hel pobol o'u tai,

yn gwyngalchu'r walie ac yn hudo pentref newydd

o adfeilion Grange y dosbarth gweithiol.

Gyrrwr tacsi oedd drws nesaf –

ei injan ynghyn ac alawon ei orsaf radio'n

drybowndian yn nhes yr haf.

Roeddwn i'n arfer ei regi'n biws

ond chlywi di ddim gwynt egsôst mwyach.

Gwyn a Mel sydd yno nawr

ac ymchwydd mewn bol.

Nhw â'u Tafwyl a'u Steddfod Gen

yw alaw newydd y Trelluest hwn.

Madde i fi, cellwair, tynnu coes –

ond oes 'na wir ynddi?

A beth wedyn pan ddaw'n amser iti

werthu cartref dy fam, Morfudd druan.

Mae Aberteifi'n agos at dy galon, mi wn

ond o'i gadw oni fydd gen ti dŷ haf, yn faich?

Isht! Dim ond cwestiwn.

Dim ond codi pwnc dros ein cnau

tra'n bod ni'n aros i'r cwis ddechrau.

Wyddost ti, gyda llaw, beth yw'r enw Cymraeg cywir am Grangetown?

Ie ... ti'n iawn!

 

 

 

Y Morwyr

(Dathlu dyfodiad Ysgol Hamadryad)

 

Llongddrylliad hardd y glannau,

rwyt ti'n dod yn dy fla'n yn bert.

Wele fast dy sgaffaldau

a tharpolin-dros-dro dy hwyliau.

Yn fuan, byddi'n llong

a daw morwyr bach y morglawdd

i drochi yn nhonnau dysg.

 

Pe bai amser yn drysu am fore,

yn rhoi cam yn unig o'i le,

byddai Trebiwt yn llwyfan aur

a chaneuon yn cyniwair.

 

Baledi morwyr Llŷn a Môn

wrth geisio'r hawl i hwylio,

a chorws bywiog y morwyr bach

yn sgrialu am yr ysgol.

 

Fel nodwydd record, neidia,

cymysga'r nodau –

nes y caiff pawb glywed

alawon ei gilydd am y gorau!

 

Clyw nhw'r morwyr bach

a chlyw nhw'r morwyr mwy!

Pawb ar waith dan ganu

wrth i fastiau'r llongau godi –

yn opera o Gymra'g.

 

 

 

Rhewi

(Penwythnos Mawrth 3, 2018)

 

Dydy dŵr afon byth yn tewi –

o un eiliad i'r na'll

mae'n llifo ac yn llyfu,

yn llowcio.

Ond bore heddiw

mae'r eira'n lluwchio

ac afon Taf fel dŵr llyn.

A rewodd hi ein straeon yn gorn

a'u dala'n dynn?

 

Gwyn ein byd am dridiau

ond buan y daw'r dadmer.

Cyhyrau'r dŵr yn grwgnach

dan haelioni'r haul

nes rhwygo'r rhew fel papur tisw

a mynnu llifo am yr aber ...

 

Ar ein gwaethaf

rhaid gwneud lle

i lesni yfory

a thrennydd

a thradwy ...

gan roi i eiliadau heddiw

wres tanbaid ein sylw.

 

 

Yma