Mari Williams yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen 2018
7 Awst 2018

Mari Williams o Gaerdydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.

Tasg y 10 a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.  Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, gyda’r wobr ariannol yn rhoddedig gan CBAC ar adeg 70 mlwyddiant sefydlu ei ragflaenydd, Cydbwyllgor Addysg Cymru yn 1948.

Y beirniaid oedd Meinir Pierce Jones, Bet Jones a Gareth Miles, ac wrth draddodi’r feirniadaeth dywedodd Meinir Pierce Jones, “Yn Doe a Heddiw gan Ysbryd yr Oes, adroddir dwy stori’n gyfochrog: hanes John Penry, Cefn Brith Sir Frycheiniog, y Piwritan, a hanes cyfoes John Williams, athro Hanes mewn ysgol uwchradd yng nghyffiniau Caerdydd  - ar adegau o greisis ym mywyd y naill a’r llall.

“Mae hon yn nofel uchelgeisiol a deallusol wrth i’r awdur - ‘cyfarwydd penigamp’ ym marn Gareth Miles - bendilio rhwng y ddwy stori, gan dynnu sylw’r darllenydd ystyriol at y gwrthgyferbyniadau a’r tebygiaethau rhyngddynt.

Fel y dywed Bet Jones, ceir yma waith a fydd yn ‘procio’r meddwl ac yn ysgogi trafodaeth’ ac un rheswm creiddiol am hynny, ydi fod yr awdur yma wedi deall mai – proses ydi hanes, a dyna i chi fan cychwyn diddorol i unrhyw drafodaeth.  Amser a ddengys sut dderbyniad a gaiff y nofel hon; yn sicr mae’n rhoi i ni ddarlun o gyfnod o’n gorffennol a dyn o bwys o’n  gorffennol a  golwg anghyfforddus hefyd ar ein cymdeithas gyfoes ni. Yn John Williams, cawn arwr annhebygol i’n hoes a’n ffordd o fyw.

“Llwyddodd y tri ohonom i gytuno  - yn gyntaf, fod teilyngdod eleni yng Nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen, ac yn ail mai’r sawl sy’n ennill y wobr honno, am ei nofel gynnil, grefftus ac amserol ydi Ysbryd yr Oes am ei nofel Doe a Heddiw. Ond rhag i chi ddrysu pan ewch i chwilio am eich copi ar y Maes yn syth ar ôl y seremoni hon, cystal egluro rŵan, fod yr awdur bellach wedi rhoi ei ffugenw’n deitl ar ei nofel - Ysbryd yr Oes, felly ydi ffugenw a theitl nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, sy’n rhoi ystyr newydd i wneud y dwbl!

Ganed Mari Williams yng Nghaerdydd lle mae ei hynafiaid wedi bod ers canrifoedd ac mae hi'n byw yno yn awr.

Fe'i haddysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd y Merched, Caerdydd ac yna yng Ngholeg Newnham, Prifysgol Caergrawnt. Ar ôl graddio â gradd anrhydedd yn y Clasuron bu hi'n athrawes mewn nifer o ysgolion ac yn eu plith cafodd hi'r fraint o addysgu yn Ysgol Brynrefail, Ysgol Cwm Rhymni ac Ysgol Rhydfelen. Ar hyn o bryd mae hi'n addysgu Lladin i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Mari hefyd wedi ysgrifennu wyth nofel ar gyfer gwahanol oedrannau, ac mae hi'n hoff o deithio ac ymweld â lleoliadau hanesyddol pell ac agos. Mawr yw ei dyled i Gapel Annibynwyr Bethlehem, Sblot, a fynychai pan oedd yn blentyn.

Mae hi'n weddw i'r diweddar Barchedig William Elwyn Lloyd Williams o Abererch a oedd yn arolygwr ysgolion ac yn ŵr ysbrydoledig, yn fam i Geraint a Delyth ac yn fam-gu i Huw, Nia, Manon a Geraint-Dewi.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd tan 11 Awst.