Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Matt Spry.
Fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig nos Fercher, yn Y Dosbarth, Coleg Caerdydd a’r Fro, yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel.
Y beirniaid eleni oedd Lowri Bunford Jones, Carole Bradley a Lowri Haf Cooke, a noddwyd y gystadleuaeth gan gwmni Blake Morgan.
Yn wreiddiol o Aberplym, mae Matt Spry yn byw yng Nghaerdydd ers pum mlynedd, ac yn dysgu Cymraeg ers 2015, ac yn bwriadu sefyll yr arholiad Uwch y flwyddyn nesaf.
Mae’n gweithio i Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd fel tiwtor-drefnydd, ac yn gyfrifol am drefnu cyrsiau a dysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghaerdydd. Dywed fod dysgu Cymraeg wedi bod o gymorth mawr iddo dros y blynyddoedd diwethaf a bod yr iaith wedi newid ei fywyd yn gyfan gwbl.
Ei uchelgais yw parhau i weithio fel tiwtor Cymraeg gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a byddai hefyd yn hoffi gweithio ar brosiectau dysgu arloesol eraill, gan gynnwys cynnig gwersi Cymraeg mewn carchardai, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu’r rheiny â phroblemau gyda chyffuriau ac alcohol.
Derbyniodd Matt dlws arbennig, yn rhoddedig gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a £300 gan Peter a Gill Griffiths, Pentyrch, Caerdydd.
Y tri arall yn y rownd derfynol oedd Steve Dimmick, Yankier Pijeira Perez a Nicky Roberts, a derbyniodd y tri dlysau llai, sydd hefyd yn rhoddedig gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Bydd y rheiny sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr. Bydd Matt hefyd yn cael ei wahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.
Bydd cyfle i gyfweld Matt yn y gynhadledd i’r wasg fore Iau.