Tim Heeley yn ennill Tlws y Cerddor
8 Awst 2018

Tim Heeley yw enillydd Tlws y Cerddor eleni, ac fe’i hanrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan Pafiliwn HSBC heddiw.

Y dasg eleni oedd creu darn i gerddorfa lawn fyddai’n gweddu i ddrama dditectif ar y teledu heb fod yn hwy na 7 munud.  Y wobr yw Tlws y Cerddor (Urdd Cerddoriaeth Cymru) a £750, yn rhoddedig er cof am Tom Mainwaring, Rhydaman, gan Heulwen, Wyn a’r teulu) ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa’r cyfansoddwr buddugol.

Y beirniaid oedd John Rae, John Hardy ac Owain Llwyd, ac wrth draddodi ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd John Rae, “Mae hwn yn waith o safon uchel iawn.  Dyma gyfansoddwr profiadol sydd yn feistr ar y grefft o ysgrifennu i gerddorfa lawn.  Ar y cyfan, dyma waith godidog drwyddi draw.

“I bob pwrpas, pecyn addysgiadol yw Gafael ar y Gwir. Rhaid inni “ddeall y stori yn y gerddoriaeth, ac felly i ddatrys y dirgelwch o bwy sy’n euog”.

Mae’r ymdriniaeth yma yn un sy’n debyg i gyngerdd cerddorfaol ar gyfer plant ac ysgolion sy’n dod â’r gerddoriaeth y rhaglen dditectif fwyaf poblogaidd yn dod yn fyw.

“Mae’r syniad yma yn ddiddorol o ran cyd-destun cystadleuaeth Tlws y

Cerddor, sef, cyflwyno croestoriad o themâu ar gyfer drama dditectif ffug.  Heb os, mae gan y cyfansoddwr hwn ddisgyblaeth a charedigrwydd llwyr.  Hoffwn glywed cyfraniad y cyfansoddwr i’r genre ddrama dditectif ar gyfer y teledu yn fyw gyda cherddorfa lawn.”

Yn wreiddiol o Scarborough, graddiodd Tim Heeley mewn Cyfansoddi ac Offeryniaeth a Threfnu ym Mhrifysgol Bangor, cyn mynd i ddysgu yn Ysgol Bryn Elian cyn symud ymlaen i Ysgol Brynhyfryd, Coleg Cambria a Gwasanaeth Cerdd Sir y Fflint.

Yn gynnar iawn yn ei yrfa addysgu, penderfynodd Tim ddysgu Cymraeg er mwyn ymgartrefu’n llwyr yng Nghymru a chael mwynhau ei diwylliant. Mae wedi astudio a chwblhau’r rhan fwyaf o’r cyrsiau Cymraeg i Oedolion, ac eleni, wedi bod yn rhan o Gynllun Sabothol Cymraeg Prifysgol Bangor. Mae hyn yn golygu ei fod bellach yn gallu cyflwyno ei wersi Cerddoriaeth bob dydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar hyd ei yrfa gerddorol mae Tim wedi cyflawni amrywiaeth o rolau. Mae wedi cyfeilio i gorau ac unigolion, wedi trefnu cerddoriaeth ar gyfer corau, bandiau a cherddorfeydd, wedi bod yn gyfarwyddwr cerddorol ar sioeau cerdd, ac wedi arwain nifer o gorau a cherddorfeydd. Mae bellach yn arwain Côr Bach Trelawnyd, sy’n perfformio ledled gogledd Cymru. Mae hefyd wedi cael profiad o weithio gyda phrosiectau creadigol mawr, gan gynnwys perfformiadau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw.

Mae Tim wedi hyfforddi nifer fawr o ddisgyblion ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Dros y blynyddoedd, mae wedi cael llwyddiant mewn amrywiaeth o gystadlaethau ar lwyfan yr Eisteddfod, gan gynnwys cystadlaethau cerdd dant, detholiad allan o sioe gerdd, caneuon actol, bandiau a chorau.  Eleni, am y tro cyntaf, penderfynodd Tim ei hun gystadlu gyda’r cyfansoddiad buddugol hwn.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ymlaen tan 11 Awst.