Yn ei gyfarfod Cyngor yn Aberystwyth heddiw, cyhoeddwyd bod yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni wedi denu mwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen, gyda nifer fawr yn ymweld am y tro cyntaf.
Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Ashok Ahir, “Mae llawer o sôn wedi bod am Eisteddfod ‘wahanol’ ac arbrofol’ Caerdydd, ond roedd yr ŵyl eleni’n torri tir newydd mewn nifer fawr o ffyrdd eraill. Drwy gael Maes agored, roedd yn groesawgar ac yn gynhwysol - roedd hon yn ŵyl oedd yn perthyn i bawb o Gaerdydd a Chymru, ac fe welwyd hyn yn glir yn ystod yr wythnos.
“Roedd crwydro’r Maes yn brofiad gwych. Wrth gwrs, roedd y Gymraeg i’w chlywed yn amlwg, ond roedd ieithoedd o bob rhan o’r byd i’w clywed hefyd, ac roedd hyn yn wirioneddol braf ac yn dangos bod diwylliant Cymraeg yn hygyrch ac yn agored i bawb. Roedd hi’n Eisteddfod a greodd fwy o argraff arna i a miloedd o bobl eraill na’r un ŵyl o’i blaen.
“Dyma sut mae cyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfa newydd; dyma sut mae newid agweddau at yr iaith – a dyma sut mae annog pobl i fynd ati i ddysgu a defnyddio’r iaith ym mhob agwedd o’u bywyd. Yn syml, dyma sut mae dangos i bawb bod y Gymraeg yn iaith ddeinamig, naturiol a pherthnasol. A dyma fydd gwaddol mawr Eisteddfod Caerdydd.
“Mae heddiw hefyd yn gyfle i ni ddiolch i bawb am eu holl waith caled. Roedd yn fraint arwain tîm mor frwdfrydig, egnïol a llawn syniadau, ac roedd hefyd yn braf gweld cynifer o bobl ifanc yn arwain ar y gwaith codi arian ar draws y ddinas. Mae ein dyled yn fawr i bawb a fu’n rhan o’r tîm dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”
Mae diogelwch ymwelwyr yn hollbwysig i’r Eisteddfod, a chyda Maes agored, di-ffens a gwahanol, bu’n rhaid buddsoddi’n helaeth mewn swyddogion ac elfennau diogelwch eraill er mwyn sicrhau bod pawb yn ardal yr Eisteddfod yn teimlo’n saff yn ystod yr wythnos. Roedd hyn yn gost ychwanegol i’r sefydliad, gan arwain at ddiffyg ariannol gweithredol o £290,139 eleni, ac mae hon yn gost sydd wedi’i hysgwyddo gan yr Eisteddfod ei hun.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Betsan Moses, “Ein gweledigaeth a’n penderfyniad ni oedd cynnal gŵyl agored, ddi-ffiniau a chynhwysol. Drwy gynnig mynediad i ran helaeth o’r Maes yn rhad ac am ddim, roedd eleni’n fuddsoddiad strategol yn yr iaith gennym ni, ac fe ddaeth yr ymwelwyr cyfarwydd a newydd i gefnogi.
“Yn ôl rhai amcangyfrifon, daeth hanner miliwn o bobl i’r Maes yn ystod yr wythnos, sydd tua 350,000 yn fwy na’r niferoedd sy’n arfer ymweld. Felly, am gost o lai na £1 ychwanegol i’r Eisteddfod am bob ymwelydd newydd, llwyddwyd i ddenu cannoedd o filoedd o bobl i brofi gŵyl sy’n ddathliad eclectig a chyfoes o’n hiaith a’n diwylliant.
“Roedd cynnal Eisteddfod arbrofol yn heriol ac yn risg. Nid ar chwarae bach mae trefnu gŵyl agored fel hyn, ac roedd yn wahanol iawn i’n profiad ni fel trefnwyr fel rheol.
“Wrth gwrs, roedd gallu defnyddio adeiladau parhaol eiconig fel y Senedd, Pierhead a Chanolfan Mileniwm Cymru yn wych, ond roedd creu Maes Eisteddfod o amgylch yr adeiladau hyn yn waith cymhleth a hir. Ond braf yw edrych nôl erbyn hyn a gweld cymaint oedd y llwyddiant.
“Doedd y Gymraeg ddim yn rhwystr o gwbl, ond yn hytrach, roedd yn gyfle i werthu’r iaith, ein diwylliant a’n gwlad ar eu gorau. Mae hwn yn fuddsoddiad sydd wedi, ac sy’n parhau i newid agweddau pobl y brifddinas a thu hwnt tuag at yr iaith. Ac fe fyddwn yn falch o fod wedi gallu cynnal Eisteddfod arbrofol a gwahanol yn y Bae am byth oherwydd hyn.”