Gruffudd Eifion Owen yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
10 Awst 2018

Ac yntau wedi ennill stôl y Siwper Stomp ar lwyfan y Pafiliwn nos Lun, a’r brif wobr yn y Stomp Werin yn Nhŷ Gwerin nos Iau, ychwanegodd Gruffudd Eifion Owen Gadair i’w gasgliad brynhawn Gwener wrth iddo ddod i’r brig yn seremoni olaf yr wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Mae Gruffudd, sy’n 32 oed, yn derbyn y Gadair am awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn hwy na 250 o linellau, ar y testun 'Porth'.  Y beirniaid oedd Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Rhys Iorwerth.  Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd Ceri Wyn Jones, “Porth oedd y testun ac ymhlith pyrth y gystadleueth, ro’dd porth y caethweision yn Nghalabâr, porth Brexit yng Nghaernarfon, porth bae Caerdydd, porth castell Caerdydd, a’r porth i’r byd digidol. A chwpwl o byrth nad ydw i – na Rhys nac Emyr y Graig – hyd at y dydd heddiw yn gallach beth y’n nhw, heb sôn am ble maen nhw!

Ond wrth droi at waith ‘Hal Robson-Kanu-, meddai, “Mi aeth yr awdl hon â gwynt y tri ohono’ ni – nid am ei bod hi’n goeth a chyfoethog, nid am ei bod hi’n eithriadol o gywrain ac amlhaenog – ond am ei bod hi mor syml o dreiddgar yn y ffordd mae’n ymdrin â  phrofiade sydd yn ffordd o fyw i’r genhedleth ddigidol. A thrwy wneud hynny, mae’n archwilio’r modd yr y’ ni’n dewis byw ein bywyde, ac mae ystyr – neu ddiffyg ystyr – hwnnw wedi bod yn ofid i feirdd ar hyd y cenedlaethe, wrth gwrs.

“Ond o bosib ei gamp fwya yw ei fod wedi gwneud hyn oll mewn ffordd mor ddealladwy, a hynny diolch i arddull lafar garlamus ac amrywieth o gyweirie, lle mae enwe brand a rhegfeydd yn bethe mor naturiol a chyffredin ag yw englynion telynegol iddo. Ac am ei fod e’n gynganeddwr mor sionc a greddfol, mae’n gallu taro ergydion cyson gofiadwy a newid ei arddull, heb darfu ar lif ei stori.

Roedd y gystadleuaeth yn agos eithriadol o agos eleni, gydag awdl gŵr dienw hefyd yn haeddu’r Gadair yn ôl Ceri Wyn Jones, “Gan gŵr dienw mae’r deallusrwydd, y gyfeiriadaeth a’r gorchestion cynganeddol – ond, chwedl Rhys Iorwerth, Hal Robson-Kanu sy’n ‘apelio fwyaf at fy emosiynau ac yn gwneud imi bendroni am ystyr ein bywyd modern’. Os yw awdl gŵr dienw yn siŵr o gyffroi’r darllenwyr hynny sy’n ffans o’r awdl eisteddfodol, mae gan awdl Hal Robson-Kanu y potensial i gyffroi darllenwyr na ddarllenodd – neu na gafodd flas ar – yr awdl eisteddfodol erioed.

“Ond nid y pethe hynny drodd y fantol leni. Y gwir yw bod un o’r ddwy awdl eithriadol hyn wedi rhoi mwy o wefr i ni na’r llall. Ac ar sail y wefr honno, mae’r tri ohono’ ni, yn annibynnol ar ein gilydd ac yn gwbwl gytûn, wedi penderfynu fod y gadair eleni yn mynd i Hal Robson, Hal Robson-Kanu.”

Yn wreiddiol o Bwllheli, bu Gruffudd yn mynychu gwerso cynganeddu gyda Ifan Prys a’r Prifardd Meirion MacIntyre Huws yn ystod ei arddegau.  Dyma’r tro cyntaf iddo gystadlu am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ond nid dyma’r tro cyntaf iddo dderbyn gwobr ar lwyfan Theatr Donald Gordon, gan iddo ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd yn 2009. 

Mae’n un o griw Bragdy’r Beirdd.  Mae’n stompiwr brwd, ac yn teimlo bod cael cyfle i berfformio ei gerddi yn gyson o flaen cynulleidfaoedd wedi bod o fudd mawr iddo fireinio ei grefft fel bardd.

Mae’n gweithio i’rBBC fel un o olygyddion y gyfres boblogaidd, Pobol y Cwm, ac yn gweithio gyda dau o gyd-enillwyr yr wythnos hon, Catrin Dafydd, enillydd y Goron a Rhydian Gwyn Lewis, a enillodd y Fedal Ddrama ddoe, sy’n golygu i’r gyfres ennill y trebl yr wythnos hon yn Eisteddfod Caerdydd!

Ar hyn o bryd, mae Gruffudd i ffwrdd o’r gwaith yn mwynhau amser gyda’i fab ifanc, Dyfed Arthur, ond bydd yn dychwelyd i’w swydd ymhen y mis.

Mae’n aelod o dîm ymryson Llŷn ac Eifionydd ac o dîm talwrn Y Ffoaduriaid, pencampwyr y gyfres yn 2016.  Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, Hel Llus yn y Glaw, yn 2015 gan Barddas, a chyrhaeddodd y gyfrol restr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2016.

Mae’n ddiolchgar iawn i’w gyn-athrawon a darlithwyr, ei deulu a’i gyfeillion am eu holl anogaeth, cefnogaeth ac amynedd dros y blynyddoedd, yn arbennig felly i Gwennan, Casia a Llŷr, ei gyd-Ffoaduriaid: nhw yw ei athrawon barddol.

Noddir y Gadair gan Amgueddfa Cymru i ddathlu pen-blwydd Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, yn 70 oed.  Rhoddir y wobr ariannol gan Gaynor a John Walter Jones er cof am eu merch, Beca. 

Roedd yr Amgueddfa'n awyddus i weld cynllun a oedd yn cysylltu gyda Sain Ffagan, a dyma oedd yr her i Chris Williams, cerflunydd, sy'n byw yn Pentre ac yn gweithio yn Ynys-hir, Rhondda.  Ysbrydolwyd Chris gan ffurf y cadeiriau coedyn yng nghasgliad yr Amgueddfa, ac un gadair yn arbennig a wnaed yn Nhrealaw, nid nepell o'i weithdy.

Dewisodd Chris greu cadair â sedd a chefn o bren llwyfen gyda choesau a breichiau o bren onnen. Mae'r sedd a'r cefn wedi'u hengrafu yn ysgafn â phatrwm gwlân traddodiadol sy'n seiliedig ar garthen yng nghasgliad Sain Ffagan, ac a wehyddwyd ym Melin Wlân Esgair Moel, un o'r adeiladau cyntaf i gael ei ailgodi yn yr Amgueddfa Werin yn 1952.

Llwyddodd Chris i gyfuno elfennau traddodiadol â thechnoleg newydd wrth greu'r Gadair. Cafodd nifer o'r darnau eu creu â llaw gan ddefnyddio offer traddodiadol, tra bod y patrwm ar y sedd a'r cefn wedi eu hengrafu ar beiriant laser.

Cafodd darnau o'r Gadair eu creu yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, mewn adeilad pwrpasol: Gweithdy. Mae Gweithdy yn adeilad cynaliadwy newydd sbon sy'n llwyfan i sgiliau crefftwyr ddoe a heddiw, lle gall ymwelwyr o bob oed gael profiad uniongyrchol o sgiliau traddodiadol. Yn Gweithdy, bu Chris yn arddangos ac yn rhannu'r broses o greu'r Gadair gydag ymwelwyr i'r Amgueddfa – rhywbeth newydd yn hanes creu Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, ar werth yn dilyn y seremoni hon.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym Mae Caerdydd tan 11 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.