Manon Steffan Ros yn ennill Medal Ryddiaith 2018
8 Awst 2018

Manon Steffan Ros sy’n ennill y Fedal Ryddiaith eleni mewn cystadleuaeth a ddenodd bedair ar ddeg o ymgeiswyr.

Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Ynni’.  Y beirniaid oedd Sonia Edwards, Menna Baines a Manon Rhys.  Cyflwynwyd y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd.

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd Sonia Edwards, enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn y llynedd, “Hoffwn ddiolch i awduron y cyfansoddiadau a ddaeth i law am ymddiried eu gwaith ynom. Yng ngeiriau Manon, ‘mae cyflawni tasg fel hon yn gofyn am ymroddiad, stamina a dyfalbarhad.’ A rhaid cytuno hefyd â Menna nad ydi’r testun ‘Ynni’ chwaith mo’r hawsaf i ymateb iddo’n greadigol.

Wrth sôn am y gyfrol fuddugol, ‘Llyfr Glas Nebo’ gan Aleloia, dywed, “Weithiau, mewn ras fawr nodedig, mae yna geffyl diarth yn ymddangos o nunlle ac yn pasio pawb o’r ochr allan. Mae o’n ei osod ei hun ar y blaen ac yn aros yno hyd y diwedd, tra bod y gweddill yn mesur eu camau tu  ôl iddo.  Mae profi cyffro fel hyn yn peri i ias eich cerdded.

“Daeth gwaith Aleloia o ganol y pentwr cyfansoddiadau a’i osod ei hun ar y blaen. Fedrwn i ddim rhoi’r gorau i ddarllen y nofel hon ac es i drwyddi ar un eisteddiad. A doeddwn i ddim isio iddi orffen. Ond erbyn meddwl, doedd hynny ddim yn ormod o loes, oherwydd mi arhosodd hefo fi’n hir.  Dyna’r argraff a gafodd ar fy nghyd-feirniaid yn ogystal.

“Cawsom ein dal yng ngwe dryloyw, fregus Aleloia o’r dechrau i’r diwedd a thu hwnt. A dyna gamp gwir lenor. Mae’r darlun a gawn o ran o ogledd Cymru yn sgil ffrwydriad niwclear trwy lygaid bachgen a’i fam yn ysgubol. Nid oherwydd y wybodaeth wyddonol a gawn. Nid oherwydd fod yma iaith aruchel. Ond oherwydd fod yma anwyldeb a thynerwch a realiti noeth a cholled a dioddefaint mewn iaith sy’n perthyn i ni i gyd. Ac oherwydd fod yr awdur hwn yn llenor wrth reddf. 

“Dywed Menna Baines fod yma ‘ysgrifennwr greddfol, sicr ei gyffyrddiad.’ Ac meddai Manon Rhys: ‘Gafaelodd y nofel hon ynof o’r frawddeg gyntaf.’ Dwi wedi sôn heddiw am grynhoi. Tasai rhaid crynhoi’r feirniadaeth ar y gwaith hwn i un gair mi ddywedwn i: perl. Mae Aleloia bellach yn swnio’n debyg iawn i ‘haleliwia’! Ewch ar garlam i’w anrhydeddu â Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 a rhowch iddo bob clod a berthyn iddi.”

Ganwyd a magwyd Manon Steffan Ros yn Rhiwlas, Dyffryn Ogwen, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Rhiwlas ac Ysgol Dyffryn Ogwen. Ar ôl gadael yr ysgol, bu’n gweithio fel actores gyda chwmnïau theatr Y Frân Wen a Bara Caws am rai blynyddoedd.

Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol 2005 a 2006, a dyna a’i hysgogodd i ddechrau ysgrifennu o ddifrif. 

Mae Manon wedi ysgrifennu amryw o nofelau, ac enillodd Wobr Tir na n-Og am lenyddiaeth i blant dair gwaith. Mae hefyd yn ddramodydd, yn sgriptwraig, ac yn diwtor ysgrifennu creadigol.

Mae’n ysgrifennu colofn wythnosol o lên micro yng nghylchgrawn Golwg, ac eleni, bu’n gweithio fel awdur preswyl yng Nghastell Penrhyn.

Bellach, mae Manon yn byw yn Nhywyn, Bro Dysynni, gyda’i meibion, Efan a Ger.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym Mae Caerdydd tan 11 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.