Rhydian Gwyn Lewis sy’n cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.
Derbyniodd ei wobr ar lwyfan Pafiliwn HSBC heddiw mewn seremoni arbennig. Cyflwynir y Fedal Ddrama am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Gwobrwyir y ddrama sy’n dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.
Mae Rhydian Gwyn Lewis yn derbyn Y Fedal Ddrama (er cof am Urien Wiliam, rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli). Cyflwynir rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts.
Y beirniaid eleni oedd Sarah Bickerton, Betsan Llwyd, Alun Saunders, ac wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan, disgrifiodd Betsan Llwyd y ddrama Maes Gwyddno gan Elffin, gan ddweud, “Tafarn yn Grangetown, Caerdydd yn y flwyddyn 2051, mae Cymru ar fin cael ei llyncu’n llwyr gan Loegr, ac mae criw o bobl ifanc yn paratoi i brotestio’n derfysgol. Mae’r sefyllfa’n denu sylw, ac ymdriniaeth y Dramodydd ohoni’n tanio a chynnal diddordeb, gyda thensiwn yn cynyddu drwyddi.
“Ar y cyfan caiff y manylion eu datgelu’n grefftus; mae’r ddeialog yn llifo’n rhwydd a naturiol, ac o ran llwyfaniad mae yma ddefnydd dyfeisgar o daflunio. Er nad oeddem yn gytûn ar lwyddiant y Dramodydd i greu cymeriadau â lleisiau unigryw, yn sicr mae ganddo ef neu hi rywbeth pwysig i’w ddweud.”
Cafodd Rhydian Gwyn Lewis ei fagu yng Nghaernarfon ond mae bellach yn byw yn Grangetown, Caerdydd. Bu’n ddisgybl yn Ysgol y Gelli ac Ysgol Syr Hugh Owen, a mynychodd Ysgol Glanaethwy lle cafodd ei flas cyntaf ar ysgrifennu dramatig. Aeth ymlaen i astudio Cerddoriaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cwblhau gradd Meistr mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, gan ganolbwyntio yn bennaf ar ysgrifennu creadigol.
Bu Rhydian yn aelod o gast Rownd a Rownd am wyth mlynedd yn chwarae rhan y cymeriad Jonathan ac, o ganlyniad, dechreuodd ymddiddori ymhellach ym myd y ddrama. Mae hefyd yn falch iawn o fod yn aelod o’r Crwbanod Ninja wedi iddo leisio cymeriad Donatello yn y gyfres gartŵn ar S4C yn 2013.
Bellach, mae’n gweithio fel golygydd sgript i gyfres Pobol y Cwm ers bron i bum mlynedd. Mae’n ddiolchgar iawn i’r gyfres am y cyfle i gydweithio gydag ystod eang o awduron ac actorion profiadol, ac mae bod yn rhan o dîm golygyddol rhaglen o’r fath wedi dysgu llawer iddo am ysgrifennu dramatig.
Yn 2016, cafodd ei ffilm fer, Atal, ei chynhyrchu fel rhan o brosiect It’s My Shout, a bu gweld ei waith yn cael ei ddarlledu ar y teledu yn ysgogiad i Rhydian barhau i ysgrifennu. Daeth yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama y llynedd ac roedd hynny hefyd yn hwb iddo ddal ati i gyfansoddi.
Yn ei amser hamdden, mae Rhydian yn hoff iawn o greu a gwrando ar gerddoriaeth. Bu’n brif leisydd a gitarydd y band Creision Hud am sawl blwyddyn ond mae bellach yn aelod o grŵp y Rifleros, sy’n parhau i recordio caneuon newydd a gigio yn gyson.
Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd tan 11 Awst.