Mellt wins the Welsh Language Album of the Year
9 Awst 2018

Mellt sy’n derbyn Tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am eu halbwm Mae’n Hawdd Pan ti’n Ifanc.

Cyhoeddwyd hyn mewn seremoni arbennig ar Lwyfan y Maes BBC Radio Cymru y prynhawn ‘ma. 

Mae’n teimlo fel oesoedd ers i EP gyntaf y band ifanc o Aberystwyth ddod allan, gyda dim ond perfformiadau byw fel tamaid i aros pryd am yr albwm.  O’r diwedd cafodd ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’ gan Mellt ei ryddhau, gan ennyn digonedd o ganmoliaeth. 

Mae dylanwad y cynhyrchydd Mei Gwynedd yn gwneud i’r albwm sefyll allan mewn marchnad gyfyngedig.  Gyda caneuon cofiadwy fel ‘Planhigion Gwyllt’ a ‘Rebel,’ bydd yr albwm yma yn siŵr o’ch cludo yn ôl i’ch llencyndod.

Meddai Guto Brychan, un o drefnwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, “Roedd gennym restr fer hynod eclectig eleni, gyda phob math o genres cerddorol yn cael eu cynrychioli.  A braf oedd cael cyfle i drafod yr albymau gyda phanel ardderchog, oedd â barn gref am bob un o’r albymau a gyrhaeddodd y rhestr fer.”

Dyma’r pumed tro i’r Eisteddfod gynnig gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.  Bendith ddaeth i’r brig y llynedd, a Swnami y flwyddyn cynt, gyda Gwenno Saunders yn ennill yn 2015.  Enillwyd y wobr gyntaf gan The Gentle Good.

Y deg albwm a ddaeth i’r brig oedd:

  • Band Pres Llareggub – Llareggub
  • Blodau Gwylltion – Llifo fel Oed
  • Bob Delyn a’r Ebillion – Dal i ‘Redig Dipyn Bach
  • Gai Toms – Gwalia
  • Gwyneth Glyn – Tro
  • Mellt – Mae’n Hawdd Pan ti’n Ifanc
  • Mr Phormula - Llais
  • Serol Serol
  • Y Cledrau – Peiriant Ateb
  • Yr Eira - Toddi

Bydd Mellt yn derbyn tlws wedi’i gomisiynu’n arbennig ar gyfer yr achlysur gan Ann Catrin Evans.

Yn ogystal y prynhawn yma, enillodd Gwilym Bowen Rhys wobr Tlws Sbardun, am gân wreiddiol ac acwstig ei naws.  Heno, bydd Gwilym yn perfformio ar lwyfan y Pafiliwn gyda’r band Pendevig.  Roedd Alun ‘Sbardun’ Huws yn un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig y blynyddoedd diwethaf, a’r bwriad yw cofio’i gyfraniad i fyd cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg.

Derbyniodd Gwilym dlws Sbardun, sydd wedi’i gynllunio a’i greu gan yr artist Carwyn Evans, i’w gadw am flwyddyn a £500.  Mae’r Tlws a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan wraig Sbardun, Gwenno Huws.