Swyddogion Pwyllgor Gwaith 2025
20 Tach 2023

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardal Wrecsam yn 2025, mae trefnwyr y Brifwyl wedi cyhoeddi enwau’r swyddogion a fydd yn llywio’r gwaith dros y flwyddyn a hanner nesaf

Mae’r gwaith o greu’r pwyllgorau testun a’r pwyllgorau lleol eisoes wedi cychwyn, a’r cyfarfodydd i gytuno ar gystadlaethau a beirniaid yn mynd rhagddynt, er mwyn sicrhau fod y Rhestr Testunau’n barod erbyn y gwanwyn.  Bu’r rheini sydd wedi gwirfoddoli i ymuno â’r pwyllgorau lleol yn pleidleisio er mwyn ethol swyddogion y Pwyllgor Gwaith dros yr wythnosau diwethaf. 

Llinos Roberts sydd wedi’i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith.  Yn wreiddiol o’r ardal, mae hi wedi byw a gweithio yn y sir fwy neu lai ar hyd ei hoes, ac mae'n Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a'r Gymraeg yng Ngholeg Cambria.  Gyda dealltwriaeth gref o’r ardal a’i phobl, mae’n awyddus i’r Eisteddfod adlewyrchu’r brwdfrydedd a’r frwydr barhaus i gadw’r Gymraeg yn fyw mor agos at y ffin.  

Chris Evans yw Cadeirydd y Gronfa Leol.  Fel Llinos, mae Chris yn dod o Wrecsam, ac yn dysgu yn Ysgol Morgan Llwyd ers blynyddoedd. Mae’n Gadeirydd Saith Seren, a bu ynghlwm â phapur bro Y Clawdd am flynyddoedd lawer.36

Wyneb arall lleol sydd wedi’i hethol yn Is-gadeirydd Strategol Eisteddfod 2025.  Mae Jane Angharad Edwards yn swyddog gyda Chomisiynydd y Gymraeg wrth ei gwaith, ac fe fydd hi’n arwain ar yr elfen gymunedol, codi ymwybyddiaeth a sicrhau gwaddol yn yr ardal ar ddiwedd y prosiect.

Mae Elen Mai Nefydd yn gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam ers blynyddoedd, ac yn Bennaeth Datblygiad Academaidd y Gymraeg y Brifysgol ar hyn o bryd.  Gyda chefndir ym maes theatr a chelfyddydau perfformio, Elen Mai yw Is-gadeirydd Diwylliannol Eisteddfod 2025, a hi fydd yn arwain ar elfennau artistig y prosiect.

Yn Wrecsam mae gwreiddiau Shoned Mererid Davies, sydd wedi’i hethol yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith hefyd. Yn gyn-reolwr Siop y Siswrn yn Wrecsam a’r Wyddgrug, mae Shoned yn gweithio fel Swyddog Addysg yng Nghyngor Llyfrau Cymru ers dros ugain mlynedd. 

Wrth groesawu’r tîm, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda Llinos a’r tîm dros y cyfnod nesaf wrth i ni baratoi am Eisteddfod 2025. 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i ardal Wrecsam. Er i ni ymweld â’r ardal yn lled-ddiweddar yn 2011, mae’r Eisteddfod wedi datblygu ac esblygu llawer yn ystod y cyfnod, yn union fel Wrecsam.  Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i fod yn cynnal yr ŵyl yn yr ardal, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r gymuned ar bob lefel dros y flwyddyn a hanner nesaf.

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ardal o 2-9 Awst 2025.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru/2025.

 

Llun (ch-d): Llinos Roberts, Chris Evans, Jane Angharad Edwards, Elen Mai Nefydd, Shoned Mererid Davies