Artist sydd wedi creu ystafell wifren yn cynnwys dresel Cymreig, gwely o Slofacia, ynghyd â dillad a bord a chadeiriau, sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Eleni gwahoddwyd yr artist Carwyn Evans a’r curaduron Ceri Jones a Jessica Hemmings i ddethol yr Arddangosfa Agored a dyfarnu’r gwobrau. Roeddynt yn unfryd y dylid dyfarnu’r anrhydedd ynghyd â’r wobr ariannol lawn o £5,000 i Julia Griffiths Jones, Llan-y-bri, Sir Gaerfyrddin. Mae ei ail-gread o du mewn bwthyn traddodiadol ‘Ystafell o fewn Ystafell wedi’i wneud yn gyfan gwbl allan o wifr dur meddal.
Meddai Jessica Hemmings ynglŷn â’r gwaith buddugol: ‘Mae Julia Griffiths Jones wedi dod o hyd i ffordd o greu lluniadau yn yr aer … Mae ei ffordd o weld yn rhannol gyfarwydd - rydym yn adnabod siapiau gwrthrychau cartref a manylion addurniadol - ond cânt eu gweddnewid yn farciau strwythurol a thaflant gysgodion. Y teimlad a gawn gan y gwaith terfynol yw bod rhywfaint o hud a lledrith yn digwydd.’
Addysgwyd Julia Griffiths Jones yng ngholeg celf Caerwynt a’r Coleg Celf Brenhinol a phan oedd hi’n fyfyrwraig enillodd grant i deithio i Slofacia i astudio celfyddyd a diwylliant gwerin. Blynyddoedd yn ddiweddarach ffurfiodd y syniad ar gyfer y gwaith gosod buddugol pan ddaeth hi ar draws ail-luniad cegin fferm Gymreig yn ei amgueddfa leol yn Abergwili.
“Dyna oedd ystafell nad oedd modd mynd i mewn iddi, lle'r oedd y gwyliwr ond yn gallu dychmygu gweithgareddau diwyd bywyd beunyddiol yn digwydd.” meddai Julia Griffiths Jones. “Gan fy mod i wedi bod yn tynnu lluniau a dogfennu golygfeydd tebyg yn nwyrain Ewrop, roeddwn i eisiau dod â delweddau ynghlwm â’r ddau ddiwylliant at ei gilydd drwy ddefnyddio lluniadu mewn dur i glymu’r cyfan ynghyd.”
Yn ôl Carwyn Evans: ‘Mae gwaith Julia mor gain fel nad yw bron yno… wedi’u llywio gan luniadau, yn ymwneud yn uniongyrchol â gwrthrychau, siapiau a ffurfiau y gallwn eu hadnabod. Rydym drwy ddychymyg yn teimlo teneurwydd y gwaith rhwng bys a bawd: rydych am eu cyffwrdd, eu harchwilio a’u meddiannu.
Ac meddai’r trydydd detholwr, Ceri Jones:
‘Mae ffurfiau trawiadol ac atgofus Julia yn taro deuddeg ar sawl lefel. Mae’r ffaith mae tableau domestig yw hwn yn gwneud y syniad o absenoldeb yn fwy ingol. Pwy fydd yn tendio’r tegell neu’n gwisgo’r sanau? Mae’r manylion yn awgrymog a’r cysgodion yn ddihangol.’
Mae gwaith gwifren Julia Griffiths Jones i’w weld mewn gofod wedi’i gynllunio’n arbennig yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, a dywed Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, “Mae’n hollbwysig bod Y Lle Celf yn llwyddo i adlewyrchu’r byd celfyddydau gweledol yma yng Nghymru heddiw, gan ddarparu’r gofod gorau posibl i gwmpas eang o weithiau.
“Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr â’r Lle Celf yn cael eu cyfareddu gan waith Julia, sydd wedi’i osod mewn gofod syml ond hynod effeithiol. Rwy’n erfyn ar ein holl ymwelwyr i fynd i mewn i’r Lle Celf i weld y gwaith sy’n cael ei arddangos yno eleni. Chewch chi mo’ch siomi.”
Mae mynediad i Y Lle Celf yn rhad ac am ddim gyda thocyn Maes i’r Eisteddfod. Trefnir Y Lle Celf gan yr Eisteddfod Genedlaethol gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Cynhelir yr Eisteddfod ym Modedern tan 12 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.