Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 i wneuthurwraig o Gaernarfon i wthio ffiniau chwythu gwydr.
Wrth ddyfarnu’r ysgoloriaeth o £1,500 roedd y detholwyr Ceri Jones, Jessica Hemmings a Carwyn Jones yn edrych ymlaen at ddilyn gyrfa Marged Elin Owain, 22 oed, sydd newydd raddio mewn Dylunio 3D ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion.
“Dyma artist ifanc cyffrous sy’n archwilio’r tensiynau rhwng yr hynafol a’r modern gyda hyder ac ystwythder,” meddai Ceri Jones. “Mae ei gwerthfawrogiad o nodweddion cynhenid ei deunyddiau yn amlwg ac mae mewnwelediad yn amlwg yn ei harchwiliad cysyniadol. Bydd hi’n wych ailymweld â’i gwaith ymhen blwyddyn.”
Yn ôl Jessica Hemmings, mae hyder sylweddol yn perthyn i waith Marged Elin Owain sydd y tu hwnt i’w hoedran. “Mae’r cyplysiadau pren, gwydr a serameg yn teimlo’n organig ac yn gwbl gyfoes,” meddai ynglŷn â ‘Chasgliad Creiriau’ yr artist ifanc. “Ac mae ei hestheteg yn rhoi cydbwysedd ffres rhwng y defnydd o ddeunyddiau a thechnegau traddodiadol sy’n deillio ar ffurfiau nad ydynt mwyach yn gwbl gyfarwydd.”
Dyma lais newydd hollol ysbrydoledig ac enillydd cwbl haeddiannol yr ysgoloriaeth, meddai Carwyn Evans.
“Mae Marged yn distyllu hanfod ei phrofiad diwylliannol ei hun - gan ei drawsnewid yn gyfeiriadaeth weledol sy’n adeiladu iaith bersonol newydd a bywiog. Mae soniaredd y gwaith hwn i’w glywed yn uchel a chlir.”
A hithau’n casglu gwrthrychau er mwyn hel gwybodaeth ynglŷn â’r gorffennol a’r presennol, mae creiriau hanesyddol o eiddo’r teulu, fel offer gwneud menyn ei nain a theclynnau cerfio llechi ei hen hen daid, yn werthfawr iddi hi. Mae cryn dipyn o’i gwaith diweddar wedi’i ysbrydoli gan lechi cerfiedig Dyffryn Ogwen.
“Rwy'n defnyddio gwrthrychau a ddarganfuwyd ac a etifeddwyd fel man cychwyn ac yna’n arbrofi a gwthio’r ffiniau,” meddai Marged Elin Owain. “Yn aml rwy’n defnyddio hylifedd y gwydr i lywio fy narnau, gan werthuso'r gwydr wedyn ac yn ei gyfuno gyda deunyddiau eraill.
Yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol defnyddiodd Marged Elin Owain yr ysgoloriaeth i fynychu cwrs yn Ysgol Wydr Pilchuck, ger Seattle, UDA, er mwyn profi diwylliant a thraddodiadau chwythu gwydr Americanaidd. Mae gan y sefydliad, meddai, enw am ddefnyddio technegau mwy arbrofol o weithio gyda’r cyfrwng o gymharu â’r dechneg Ewropeaidd.
Yn ogystal, dyfarnwyd Gwobr Tony Goble o £500 i Marged Elin Owain am waith gan artist sy’n arddangos yn Arddangosfa Agored Y Lle Celf am y tro cyntaf.
Am wybodaeth bellach gwelwch wefan Marged Elin Owain https://www.margedowain.com/