Mae enillwyr Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru 2016 wedi’u dewis i berfformio yng ngwyliau Reading a Leeds eleni, fel rhan o gynllun BBC Introducing.
Mae gan y BBC lwyfan dros gyfnod o ddeuddydd yn y ddwy ŵyl sy’n rhoi llwyfan i artistiaid newydd sy’n gwneud argraff yn y byd cerddoriaeth, ac mae gorsafoedd y BBC yn cael enwebu artistiaid i berfformio yn ystod y gwyliau.
Cafodd Chroma eu henwebu gan Radio Cymru, ac fe fydd y band yn perfformio yn Reading a Leeds cyn diwedd y mis, yn ogystal â’r Eisteddfod.
Meddai Guto Brychan, Trefnydd Maes B ar ran partneriaeth Maes B a Radio Cymru, “Rydan ni’n eithriadol o falch o lwyddiant Chroma’n cael eu dewis i berfformio ar lwyfan nodedig BBC Introducing, flwyddyn yn unig ar ôl iddyn nhw ennill Brwydr y Bandiau ar gychwyn eu gyrfa.
“Roeddem yn gwybod o’r cychwyn bod rhywbeth arbennig arm y band, ac mae cynulleidfa ar draws Cymru wedi gweld hyn hefyd, gyda chefnogaeth i’r band yn mynd o nerth i nerth ym mhob rhan o Gymru. Mae Brwydr y Bandiau’n rhoi cyfle i fandiau ifanc a newydd i ddysgu mwy am y sîn ac i gael profiadau arbennig, a fydd yn bendant o fudd iddyn nhw yn nes ymlaen yn eu gyrfa.
“Cofiwch hefyd bod y gystadleuaeth ar Lwyfan y Maes brynhawn fory er mwyn i ni weld pwy fydd yn ennill Brwydr y Bandiau eleni, o 16:00 ymlaen. Bydd Chroma’n perfformio ar Lwyfan y Maes am 15:00 yfory, cyn i’r gystadleuaeth gychwyn, ac yna ym Maes B nos yfory hefyd.”
Mae Brwydr y Bandiau’n bartneriaeth rhwng Maes B a BBC Radio Cymru.