Dan Puw o’r Parc ger Y Bala yw enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams er clod eleni.
Cyflwynir y Fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Yn ffermwr wrth ei alwedigaeth, mae Dan Puw yn adnabyddus i genedlaethau o Gymry fel hyfforddwr a beirniad cerdd dant ac alawon gwerin. Bu’n hyfforddi cantorion yr ardal ac yn eu helpu i baratoi ar gyfer yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Gerdd Dant am flynyddoedd lawer, gan gynnwys cyfnod o bymtheg mlynedd wrth arwain Aelwyd yr Urdd yn y pentref.
Bu parti Meibion Llywarch yn llwyddiannus iawn dan ei ofal, gydag amryw o’r aelodau yn llwyddo fel unigolion hefyd a chefnogaeth Dan yn rhoi hyder iddyn nhw gamu i’r llwyfan ar eu pennau’u hunain.
Mae’n un o hoelion wyth y Gymdeithas Gerdd Dant, yn aelod ers ei ugeiniau, ac wedi bod yn rhan allweddol o’r pwyllgor am flynyddoedd. Erbyn heddiw, mae’n aelod anrhydeddus o’r pwyllgor ac yn parhau i rannu’i arbenigedd gyda chenedlaethau o gefnogwyr y grefft. Bu’n flaengar iawn wrth ddefnyddio cyfrifiadur i greu gosodiadau, ac mae’n barod iawn i gynnig cyngor yn y maes i eraill.
Yn ogystal â hyfforddi a chynnig cymorth a chefnogaeth i gantorion ifanc yr ardal, mae’r capel yn rhan bwysig ym mywyd Dan Puw. Derbyniodd Fedal Gee am ei wasanaeth i’r Ysgol Sul, ac mae’n parhau’n athro yn y capel, gyda chenedlaethau wedi bod yn ei ofal dros y blynyddoedd.
Yn ddi-os, mae’i frwdfrydedd a’i gyfraniad yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr TH Parry-Williams, a thrwy hynny, mae’n llawn haeddu derbyn y Fedal er clod eleni.
Bu Syr TH Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.
Bydd Dan Puw yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn a gynhelir ym Modedern o 4-12 Awst.
Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ac i brynu tocynnau, ewch i www.eisteddfod.cymru.