8 Awst 2017

Er i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen ddenu mwy o geisiadau nag erioed o’r blaen eleni, nid oedd yr un ymgais yn haeddu’r wobr yn ôl y beirniaid, Bethan Gwanas, Caryl Lewis a’r diweddar Tony Bianchi, a fu farw wythnosau’n unig cyn yr Eisteddfod eleni.

Tasg y 13 a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.  Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, yn rhoddedig gan Ann Clwyd er cof am ei phriod Owen Roberts, Niwbwrch.

Cyn traddodi’r feirniadaeth ar lwyfan y Pafiliwn heddiw, bu Bethan Gwanas yn talu teyrnged i’w chyd-feirniad, a chyn-enillydd y wobr hon a’r Fedal Ryddiaith, Tony Bianchi, gan ddweud, “Roedden ni fod yn dri beirniad ar y llwyfan yma, ac mae’n loes calon i Caryl a minnau ein bod wedi colli Tony Bianchi ers y cyfnod fuon ni’n darllen a beirniadu’r gystadleuaeth hon. Bu cyd-weithio ag o, fel arfer, yn brofiad hyfryd; roedden – ac rydan – ni’n dwy yn ei gyfri’n fraint. Roedd o’n gyn enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen ei hun, gyda Pryfeta nôl yn 2007. Roedd o hefyd wedi cipio’r Fedal Ryddiaith yn 2015 gyda Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands.

“Roedd y gwaith beirniadu wedi ei gwblhau ymhell cyn i ni wybod ei fod yn sâl, ond roedd wedi rhoi gwybod i ni ers tro na fyddai’n gallu bod efo ni ar y llwyfan heddiw. Ydan, rydan ni’n gweld dy eisiau di i fyny fan’ma Tony, ond mae’r byd llenyddol yn gweld dy eisiau di, ac rydan ni’n estyn ein cydymdeimlad dwysaf â’r teulu.”

Wrth droi at y gystadleuaeth, a chan draddodi ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd, “O gofio safon uchel y nofelau sydd wedi eu cyhoeddi yn sgil y gystadleuaeth hon, roedden ni’n tri’n edrych ymlaen yn arw at ddarllen y tair ar ddeg o nofelau a gyrhaeddodd eleni.  Ia, tair ar ddeg, ac ambell un ohonyn nhw’n pwyso tunnell!  Felly diolch i’r tri ar ddeg am gystadlu.

“Ro’n i’n chwilio am nofelau a fyddai’n llwyddo i wneud i mi anghofio mai beirniad oeddwn i, nofelau a fyddai’n cydio ynof fi a fy hudo i fyd dychymyg yr awduron.

“Yn anffodus, ychydig iawn o hud y nofelydd a brofais eleni. Roedd yma syniadau diddorol ac ambell gymeriad hynod afaelgar, ond roedd blas drafft gyntaf ar lawer gormod o’r cyfrolau, ac er bod ysgrifennu o leiaf 50,000 o eiriau yn gofyn am waith caled, mae’r gwaith go iawn yn y caboli, y cynilo, a’r hunan-olygu.

“Felly er ein bod yn cydnabod y dyfalbarhad oedd ei angen ar gyfer creu’r gweithiau hyn, ryda ni’n tri yn erfyn ar yr ymgeiswyr, a darpar-nofelwyr yn gyffredinol, i sylweddoli mai anaml iawn y bydd drafft cyntaf yn ddigon da. Mae gwaith caled y tu ôl i bob nofel lwyddiannus, ac mae angen chwysu drosti; dyna sy’n rhoi'r sglein.

“Mi wnes i ddechrau ar nodyn lleddf, a dwi’n gorfod gorffen, hefyd, ar nodyn lleddf: gyda chalon drom, mae’n rhaid i mi gyhoeddi mai barn y tri ohonom, er mwyn cadw safon ac enw da y gystadleuaeth, yw nad oes neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen 2017.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern tan 12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.