Emma Chappell
9 Awst 2017

Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Emma Chappell.  

Fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig nos Fercher, yng Ngwesty Tre Ysgawen, Llangefni, yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel.  Y beirniaid eleni oedd Jenny Pye, R Alun Charles a Nia Roberts.

Ganwyd Emma Chappell yng Nghaergrawnt ac fe’i magwyd yn Royston, Hertfordshire, ond erbyn hyn, mae’n byw ym mhentref Deiniolen ar lethrau’r Wyddfa yma yng Nghymru.  Mae ganddi hi a’i phartner Arwel ddau fab, Deion a Guto sy’n siarad Cymraeg ac yn mynychu’r ysgol leol.  Aeth Emma ati i ddysgu Cymraeg ar ôl cyfarfod ei phartner.  Gwyddai fod yr iaith a hunaniaeth genedlaethol yn bwysig iawn iddo fo, ac felly, aeth ati i ddysgu’r iaith yn iawn.  Roedd yn byw yn Warrington ar y pryd, ac yn ffodus, roedd dosbarth nos yn y dref, ac yna, pan symudodd i Gymru, aeth ati’n syth i ddysgu Cymraeg gyda chriw Cymraeg i Oedolion.

Mae Emma’n defnyddio Cymraeg yn ei gwaith ym Mhrifysgol Bangor bob dydd, gyda chwsmeriaid, myfyrwyr, staff a chontractwyr, ac mae hefyd yn rhan o’r grŵp gweithredu’r Gymraeg ac wedi bod yn helpu rhai o’r staff gyda’u Cymraeg.  Cymraeg hefyd yw iaith yr aelwyd, a’i bywyd cymunedol yn y pentref Cymraeg ei iaith, ac mae Emma’n chwarae rhan lawn ym mywyd y pentref.

Dywedodd Emma, “Byddwn i’n hoffi datblygu fy Nghymraeg yn y gwaith ac adra.  Dwi’n gwybod fel mae’r plant yn tyfu y bydd ‘na fwy o sefyllfaoedd pan mae’n bwysig i ddeall beth sy’n mynd ymlaen.”

Derbyniodd Emma dlws arbennig, yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, a £300 (Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor).  Cafodd y tlws unigryw eu cynllunio a’u creu gan Emma Smith a Naomi Williams, ill dwy yn fyfyrwyr Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, Bangor. 

Y tri arall yn y rownd derfynol oedd Hugh Brightwell o Ellesmere Port, Sir Gaer, Richard Furniss o Langefni, Môn a Daniela Schlick o Borthaethwy, Ynys Môn, a derbyniodd y tri dlysau llai, hefyd wedi’u creu gan Emma a Naomi, ac yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, ynghyd â £100 yr un (Teulu’r Wern, Talwrn). 

Derbyniodd y pedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol danysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr, a bydd Emma hefyd yn derbyn gwahoddiad i fod yn aelod o’r Orsedd. 

Bydd cyfle i gyfweld Emma yn y gynhadledd i’r wasg fore Iau.