Ail Fedal Ryddiaith Eisteddfod Ynys Môn i Sonia Edwards
9 Awst 2017

Ar alwad y corn gwlad yn 1999, Sonia Edwards gododd i dderbyn Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.  

Ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach, gyda’r Eisteddfod yn ôl ar yr ynys, Sonia gododd ar ei thraed y prynhawn ‘ma eto i dderbyn y Fedal am ei chyfrol ddiweddaraf.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema Cysgodion, a’r beirniaid oedd Francesca Rhydderch, Lleucu Roberts a Gerwyn Wiliams. Cyflwynwyd y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Bwyllgor Cronfa Eisteddfod Genedlaethol Môn 1957.

Derbyniwyd ugain o gyfrolau eleni, ac wrth draddodi’r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid o’r llwyfan heddiw, meddai Gerwyn Wiliams, “O blith yr 20 cyfrol a ddaeth i law, roedd y tri ohonom yn cytuno bod tua’u hanner yn haeddu cael eu cyhoeddi. Cofiwch, mae eu hansawdd yn amrywio, gydag amryw a fyddai’n elwa ar ymyrraeth olygyddol sylweddol, yn destunol ac yn greadigol. Ond yn yr ystyr fod yn y gystadleuaeth eleni ddigon o gyfrolau i gadw’n tai cyhoeddi’n brysur a bwydo’r awch am ffuglen Gymraeg gyfoes, bu hon yn gystadleuaeth lwyddiannus.”

Gyda’r beirniaid yn cytuno bod cyfanswm o 9 cyfrol – bron hanner y cynigion – yn haeddu cael eu hystyried ar gyfer y wobr ym marn o leiaf un ohonynt, dywedodd Gerwyn Wiliams, “Gyda’r deunydd yn ymateb mewn amrywiol ffyrdd i’r thema ‘Cysgodion’, caed nofelau ffantasi, nofelau hanes, croniclau cymdeithasol, casgliadau o storïau byrion, hunangofiant, cyfrolau o lên meicro ar ffurf negeseuon Facebook – ac yn y blaen. A chyda’r fath amrywiaeth, mae amrywiaeth barn a chwaeth yn beth anorfod ac iach.”

Ond hyd yn oed yng nghanol yr amrywiaeth barn a chwaeth, roedd un cais yn apelio at y tri beirniad sef gwaith Daiwa SR3, casgliad o chwe stori fer sy’n archwilio agweddau ar berthyn.  Yn ôl y beirniaid, “Dyma storïau aeddfed a llawn empathi gan lenor sy’n meddu ar ddawn dweud, yn wir, meistr ar ffurf y stori fer. Gyda’i ffugenw’n cyfeirio at fath arbennig o wialen bysgota, llwyddodd cyfrol lawn abwyd Daiwa SR3 i fachu’r tri ohonom.

“Beth felly am y cyfri terfynol? Tra bu Lleucu’n ymrafael yn hir rhwng Daiwa SR3 a Plu, rhwng Daiwa SR3 a Menyw mewn Bar Gwag yr oedd y gystadleuaeth yn y pen draw yn achos Fran a minnau. Mae’n dda gen i felly allu cyhoeddi y dylai pawb ohonom, yn feirniaid a chynulleidfa, fod wedi ein plesio bnawn heddiw: nid yn unig y mae’r gystadleuaeth yn arwyddo’n dda am gyflwr ein rhyddiaith greadigol gyfoes, ond mae yna enillydd tra theilwng i’w fedalu, ac rydym ein tri yn unfryd unfarn mai ffugenw’r enillydd hwnnw yw Daiwa SR3.”

Yn wreiddiol o Gemaes, Ynys Môn, cafodd Sonia Edwards ei haddysgu yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch a Phrifysgol Bangor.  Bu’n athrawes Gymraeg cyn ymddeol yn gynnar i ganolbwyntio ar ysgrifennu.  Mae’n fam i Rhys, sy’n athro, ac yn brif leisydd y grŵp Fleur de Lys, ac yn byw yn Llangefni.

Mae wedi cyhoeddi 27 o nofelau a chasgliadau o straeon byrion i blant, pobl ifanc ac oedolion, ac mae dwy nofel newydd yn yr arfaeth ar hyn o bryd.  Bydd ei nofel nesaf, Glaw Trana, yn ddilyniant i Mynd Draw’n Droednoeth, a gyhoeddwyd yn 2014, ac a addaswyd hefyd ganddi ar gyfer y radio.  Yn ogystal ag ennill y Fedal Ryddiaith y tro diwethaf y daeth yr Eisteddfod i Fôn, bu hefyd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn 1996 am ei chyfrol Gloÿnnod.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern tan 12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.