Heno, cyhoeddwyd nad oedd neb yn deilwng yng nghystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.
Y beirniaid eleni oedd Geraint Cynan, Branwen Gwyn a Philip Harper, a’r dasg oedd cyfansoddi darn i fand pres yn seiliedig ar y thema seryddiaeth sêr, planedau a / neu’r gofod) heb fod yn hwy na saith munud.
Y wobr oedd Tlws y Cerddor (Urdd Cerddoriaeth Cymru) a £750 (Prosiect Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol) ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000, yn rhoddedig gan Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol) i hyrwyddo gyrfa’r cyfansoddwr buddugol.
Cafwyd naw ymgais ar gyfer y Fedal, ac wrth draddodi’r feirniadaeth ar lwyfan y Pafiliwn ar ran ei gyd-feriniaid, dywedodd Geraint Cynan, “Roeddem fel beirniaid yn llawn gobaith y byddai’r thema sef ‘seryddiaeth - y sêr, y planedau a’r gofod’ yn cynnig cyfleoedd i gyfansoddwyr ysbrydoli a herio ac roeddem yn disgwyl clywed ymatebion dychmygus i’r dasg a osodwyd.
“Cafwyd rhai adegau o fewn darnau lle ymgysylltodd y cyfansoddwyr â’u creadigrwydd i greu ymatebion dychmygus i’r dasg. Ar brydiau crëwyd awyrgylch a gweadau ac arallfydol a oedd yn effeithiol, ac roedd sawl cyffyrddiad o idiomau cerddorol mwy confensiynol sy’n nodweddiadol o sgoriau ffilm gofodol.
“Nid ar chwarae bach y mae rhywun yn mynd ati i gyfansoddi darn i fand pres ac un o’r heriau mwyaf wrth wneud hyn yw’r sgorio. Dangosodd ambell gyfansoddwr ymwybyddiaeth dda o sgorio a defnyddiwyd offeryniaeth a oedd yn gweithio’n bwrpasol gan ddarparu’r her a’r diddordeb sy’n ofynnol wrth gyfansoddi ar gyfer amaturiaid.
“Ond, yn anad dim, roedd diffygion cyson o ran technegau cyfansoddi ym mhob un o’r cynigion. Yn y cyfansoddiadau a oedd yn dilyn cyfresiaeth, braf byddai wedi gallu gweld mwy o ymwybyddiaeth o gylch pumawdau a rheolau sylfaenol harmoni. Byddwn wedi dymuno gweld mwy o reolaeth dros strwythur hirdymor darnau a’r cydbwysedd ac yn ddiamheuol roedd angen mireinio datblygiad syniadau thematig a chreadigol. Gellir astudio ac ymchwilio i’r rhain mewn llyfrau cyfeirnod sy’n trafod technegau cyfansoddi.
“Siom o’r mwyaf i’r tri ohonom yw nodi na chawsom yr un darn a oedd, yn ein barn ni, yn teilyngu cael ei wobrwyo eleni. Penderfyniad unfrydol y tri ohonom yw ni chroeswyd y trothwy llwyddiant ac o’r herwydd rydym wedi penderfynu atal y Wobr eleni. OND, rydym yn pwysleisio ni ddylid defnyddio’r canlyniad hwn fel pastwn i danbrisio pwysigrwydd y gystadleuaeth. Cred y tri ohonom yw mai blip yw hwn - un flwyddyn lle, am ryw reswm ni ysbrydolwyd yr ymgeiswyr a phrysurwn bydd y gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd sy’n dod.”
Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern tan 12 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.