Cyflwynir Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn i Deri Tomos, Llanllechid, Gwynedd, am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyhoeddwyd hyn yng nghyfarfod diweddar Cyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, daeth Deri i Fangor fel cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor ar ôl graddio a chwblhau doethuriaeth yng Nghaergrawnt. Fe’i penodwyd yn ddarlithydd ym Mangor yn 1985, ac o fewn deng mlynedd derbyniodd Gadair Bersonol yn y Brifysgol. Mae hefyd wedi treulio cyfnodau ymchwil fel cymrawd gwaith yn Adelaide, Utah a Heidelberg.
Yn ogystal â’i waith ymchwil mae Deri yn athro ysbrydoledig sydd wedi cyfrannu’n helaeth i ystod eang o gynlluniau gradd megis Biocemeg, Bioleg a Biomeddygaeth. Ef oedd yn gyfrifol am ddatblygu rhannau helaeth o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y cynlluniau gradd yma hefyd, yn erbyn cryn wrthwynebiad ar y pryd.
Cyn ymddeol, sicrhaodd barhad i’r ddarpariaeth drwy ennill nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer darlithyddiaeth cyfrwng Cymraeg. Mae Deri hefyd yn gadeirydd y Panel Gwyddorau Naturiol ac yn aelod gweithgar o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bu hefyd yn aelod diflino o’r Gymdeithas Wyddonol yn yr 80au.
Mae Deri wedi gwneud mwy na neb i boblogeiddio Gwyddoniaeth a hynny i’r gynulleidfa Gymraeg. Yn gyfathrebwr heb ei ail, mae’n llais ac wyneb cyfarwydd ar radio a theledu. Cafwyd ymateb ardderchog i’r gyfres ddiweddar ‘Labordy Deri a Bryn’ ar Radio Cymru, ac mae’i gyfaniadau teledu’n cynnwys cyfres ‘Dibendraw’ a ‘Darwin, y Cymro a’r Cynllwyn’.
Mae Deri hefyd yn ysgrifennu erthyglau byr i’r cyhoedd (e.e. Y Faner a’r Gwyddonydd) ac ers deng mlynedd ef sydd wedi ysgrifennu’r golofn wyddonol ar gyfer Barn. Mae ei gyfraniadau mwyaf diweddar yn cynnwys ysgrifennu esboniadau gwyddonol yn y Gymraeg ar gyfer Wicipedia. Mae’n debyg mai dyma un o’i flaenoriaethau yn ystod ei ymddeoliad - cyfraniad gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.
Yn ddi-os, mae cyfraniad Deri Tomos i Wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn helaeth, ac mae’n un o sêr gwyddonol Cymru ac yn llysgennad heb ei ail.
Bydd Deri’n cael ei anrhydeddu gyda Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol mewn seremoni arbennig ar y Maes yn ystod wythnos yr Eisteddfod.