Bendith sy’n derbyn Tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am eu halbwm Bendith.
Cyhoeddwyd hyn mewn seremoni arbennig yn y Tŷ Gwerin y prynhawn ‘ma.
Bu’r prosiect hwn rhwng Carwyn Ellis o Colorama a’r band Plu, yn arbennig o gynhyrchiol, gyda chasgliad o ganeuon sydd â ffocws pendant ar harmonïau lleisiol yn sgil y cydweithio. Mae’r albwm yn ymwneud â thestunau fel gwreiddiau, ymdeimlad o le, teulu a chartref, ac mae sawl elfen ohono wedi’i ysbrydoli gan Sir Gaerfyrddin, ardal sy’n agos iawn at galon Carwyn. Recordiwyd yr albwm yn stiwdios Acapela ac fe’i gyd-gynhyrchwyd gan Mason Neely.
“Meddai Guto Brychan, un o drefnwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, “Roedd gennym restr fer hynod eclectig eleni, gyda phob math o genres cerddorol yn cael eu cynrychioli. A braf oedd cael cyfle i drafod yr albymau gyda phanel mor eang, sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd.
“Roedd yn amlwg o’r drafodaeth bod albwm Bendith wedi llwyddo i groesi ffiniau genres ac apelio at gynulleidfa eang iawn, a braf yw gweld hynny. Roedd y panel yn teimlo bod hwn yn gyfanwaith hyfryd yn dangos cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig ar ei orau. Braf felly yw gallu rhoi’r wobr i Bendith eleni.”
Dyma’r pedwerydd tro i’r Eisteddfod gynnig gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn. Swnami ddaeth i’r brig y llynedd, a Gwenno Saunders y flwyddyn cynt. Enillwyd y wobr gyntaf gan The Gentle Good.
Y beirniaid eleni oedd Heledd Watkins, Llyr Evans, Huw Roberts, Ywain Myfyr, Katie Hall, Owain Schiavone, John Hywel Morris, Gwyneth Glyn ac Ellen Hall, a daeth y panel ynghyd ar Faes yr Eisteddfod i drafod y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth eleni.
Roedd y rhestr fer yn cynnwys yr albymau canlynol:
- Band Pres Llareggub – Kurn
- Bendith
- Calan – Solomon
- Castles – Fforesteering
- Gwilym Bowen Rhys – O Groth y Ddaear
- Meinir Gwilym – Llwybrau
- Mr Huw – Gwna dy Feddwl i Lawr
- Ryland Teifi – Man Rhydd
- The Gentle Good – Ruins / Adfeilion
- Yws Gwynedd – Anrheoli
Bydd Bendith yn derbyn tlws wedi’i gomisiynu’n arbennig ar gyfer yr achlysur gan Ann Catrin Evans.