Osian Roberts, Rheolwr Cynorthwyol Tîm Pêl Droed Cymru, yw Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.
Gyda’i wreiddiau’n ddwfn ym Modffordd, Ynys Môn, pêl droed fu bywyd Osian ers pan yn fachgen ysgol, gan lwyddo ar y lefel uchaf o’r cychwyn, gyda chyfnod fel Capten Tîm Pêl Droed Ysgolion Cymru. Bu’n chwarae dros Ddinas Bangor, Bethesda a Llangefni cyn derbyn Ysgoloriaeth Bêl Droed i America – y Cymro cyntaf i dderbyn yr anrhydedd – a pharhau â’i addysg ym Mhrifysgol Furman, Greenville, De Carolina. Bu’n chwaraewr proffesiynol yn America, cyn troi at reoli yn Albuquerque, Mecsico Newydd.
Ar ôl dychwelyd i Gymru, bu’n gweithio fel Swyddog Datblygu Pêl Droed yn ôl yn ei gynefin ym Môn, ac yna, gadawodd yr ynys i reoli Clwb Pêl Droed Porthmadog, cyn ei benodiad yn Gyfarwyddwr Technegol Tîm Pêl Droed Cymru.
Mae’n Hyfforddwyr Addysgu a Rheolwr Rhyngwladol o’r radd flaenaf, a chafodd lwyddiant mawr gyda thîm dan 16 Cymru, gan ennill y Darian Fuddugoliaeth (Victory Shield) dwywaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf - y tro cyntaf i Gymru ennill y Darian ers 1949.
Roedd ei brofiad a’i arbenigedd yn ganolog i lwyddiant mawr Tîm Cymru yng nghystadleuaeth yr Ewros y llynedd, pan lwyddodd y bechgyn i gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth. Bu’n rhan allweddol o’r gwaith o sicrhau bod y Gymraeg i’w gweld a’i chlywed yn ystod y gystadleuaeth, gan godi proffil yr iaith yn rhyngwladol ar draws y byd.
Mae Osian yn Arbenigwr Technegol ar ran UEFA ac wedi derbyn Cymrodorion Anrhydeddus gan Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae i’w glywed yn dadansoddi gemau pêl droed yn aml ar BBC Radio Cymru, Radio Wales a S4C.
Mae Osian yn dilyn amryw o Gymry amlwg fel Llywydd yr Ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys yr hanesydd Elin Jones, y gwyddonydd, yr Athro Syr John Meurig Thomas, y barnwr Nic Parry, a chyn Brif Weinidog Cymru, y diweddar Rhodri Morgan.