Dyfarnwyd Gwobr Josef Herman - Dewis y Bobl i enillydd Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.
Wedi cyfrif cyhoeddwyd bod yr artist Julia Griffiths Jones wedi derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau am ei gwaith gwifren ‘Ystafell o fewn Ystafell’ yn Y Lle Celf. Dyma’r seithfed tro, ers sefydlu’r wobr ym 1995, i’r cyhoedd gytuno â phenderfyniad y detholwyr a dewis un o enillwyr y medalau aur,.
Drwy gefnogaeth Sefydliad Celf Josef Herman Cymru dyfernir £500 i’r artist sydd wedi creu’r darn neu’r casgliad mwyaf poblogaidd o waith yn yr Arddangosfa Agored. Gwahoddir y cyhoedd i graffu ar y gwaith cyn bwrw pleidlais dros ei hoff waith. Boed yn grochenwaith, tecstilau neu baentiadau, weithiau, mae’r cyhoedd yn cytuno â’r detholwyr ac yn pleidleisio dros un o enillwyr Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain neu Grefft a Dylunio. Dro arall, mae’r bobl yn dewis enillydd hollol wahanol. Beth bynnag yw’r canlyniad, mae’n ffordd o annog y cyhoedd i fynd i’r afael â’r gwaith celf ac ennyn perchenogaeth o’r Lle Celf.
Sefydlwyd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995 yn dilyn awgrym gan yr arbenigwr celf Miles Wynn Cato a oedd yn aelod o Glwb Daniel, Llundain. Ariannwyd y wobr gyntaf un gan aelodau’r clwb a sefydlwyd yn y 18fed ganrif gan gyfreithwyr o Gymru. Ers 2008 noddir y wobr gan Sefydliad Celf Josef Herman Cymru ac yn 2011 cafodd ei hail-enwi yn Wobr Josef Herman - Dewis y Bobl. Mae’r cysylltiad yn briodol gan y dyfarnwyd Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain i Josef Herman yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1962 am ei gyfraniad i gelf yng Nghymru a thu hwnt.