Mae darlun siarcol enfawr yn cael ei ychwanegu at gasgliad Oriel Ynys Môn yn dilyn dyfarniad Gwobr Bwrcasu Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn prynwyd lluniad ‘Ceffyl Jacques’, gan y cerflunydd o Langadfan, Stephen West, ar ran y gymdeithas (CASW). A chafodd y gwaith ei roi yng ngofal yr oriel yn Llangefni.
Mae gwaith y cerflunydd wedi gweddnewid dros y blynyddoedd diwethaf. Ers i Stephen West gael diagnosis o’r clefyd llygaid glawcoma ysbrydolwyd yr artist i edrych o’r newydd ar y byd o’i gwmpas a chanolbwyntio fwyfwy ar luniadu. Mae ‘Ceffyl Jacques’ ymhlith un o nifer o luniau graddfa fawr dynnwyd gan Stephen West o’r olygfa drwy ffenest y stiwdio.
“Sawl blwyddyn yn ôl, dyma fi yn dadrolio pum troedfedd o bapur Fabriano ar draws wal wag yn ein stiwdio yn ne-orllewin Ffrainc. Wedi i mi ei styffylu i’r hen blastr a’i dorri â chyllell, dyma ddechrau darlunio’r hyn yr oeddwn i’n ei weld drwy ddrysau gwydr yn yr ardd y tu allan.
“Roeddwn i’n syllu ar weadau a’r golau’n syrthio ar goeden gwins, rheiliau haearn, clystyrau bambŵ ac yn gwneud marciau a oedd yn ymateb i’r gwahanol blanhigion. Mae gan ein cymydog Jacques bâr o geffylau rasio, caseg ac ebol, a bydden nhw’n dod i fyny i’r ffens wrth i Shani fy ngwraig dynnu chwyn, felly maen nhw yn y lluniad hefyd. Does dim tymor penodol yno gan i mi weithio ar y darlun dros rai blynyddoedd, er efallai bod y tymhorau’n cael eu cynrychioli gan y pedwar panel a wnes i allan o’r lluniad gwreiddiol.”
Dyfernir Gwobr Bwrcasu Celfyddyd Gyfoes Cymru i waith yn Arddangosfa Agored Y Lle Celf ac ychwanegir y gwaith buddugol at gasgliad CGGC i’w drosglwyddo i oriel gyhoeddus yn nalgylch yr Eisteddfod.