13 Awst 2017

Gyda’r Maes wedi gwagio a’r gwaith o ddatgymalu’r Pafiliwn a’r adeiladau eraill wedi cychwyn, Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod fu’n edrych yn ôl ar yr wythnos ym Modedern.

Meddai, “Roeddem ni wedi bod yn edrych ymlaen ers amser i ddechrau ar y gwaith yn ynys Môn.  Gyda’r Eisteddfod heb fod i’r ynys ers 1999, roeddem yn ymwybodol iawn o’r galw i ddod dros y bont draw atoch ac roeddem ninnau hefyd yn awyddus iawn i ddychwelyd i’r Ynys i hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymru.

“Chawsom ni mo’n siomi.  O’r cychwyn cyntaf, cafwyd cydweithredu hapus a bodlon gyda’r Cyngor Sir lleol, grwpiau cymunedol, sefydliadau a’r holl ardaloedd ar draws y sir.  Bu’r prosiect cymunedol yn hynod lwyddiannus, gyda’r Gronfa Leol yn torri pob record.

“Yn ystod yr wythnos, cafwyd cystadlu arbennig iawn, a braf oedd gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan.  Bu hyn yn batrwm drwy gydol y prosiect, gyda chriw ifanc yn awchu i fod yn rhan o’r trefniadau yn ogystal â chymryd rhan yn y gweithgareddau artistig a’r cystadlaethau.  Yn wir, côr ifanc o’r ardal, Côr Ieuenctid Môn, aeth â hi yng nghystadleuaeth côr yr Ŵyl, yr anrhydedd mwyaf i ganu torfol yn yr Eisteddfod i gyd.  Llongyfarchiadau mawr i’r aelodau i gyd ac i Mari Lloyd Pritchard, eu harweinydd.

“Yn anffodus, fu’r tywydd ddim o’n plaid ni ar ddechrau’r wythnos a bu’n rhaid newid y trefniadau parcio.  Diolch i bawb am eu cydweithrediad a’u hamynedd gyda hyn.  Gweithiodd y system ym Mona’n dda, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Sioe Môn, y cwmnïau bysiau , y cyngor, yr heddlu a gwirfoddolwyr ardderchog Clwb Rygbi Llangefni am eu cydweithrediad parod er mwyn sicrhau llwyddiant y system hon.

“Wrth gloriannu’r gweithgareddau ar ddiwedd yr wythnos, cafwyd cystadlu ardderchog, enillwyr o safon aruchel yn y cystadlaethau cyfansoddi.  Fe gafwyd diffyg teilyngdod mewn dwy gystadleuaeth ond mae’n bwysig bod gan y beirniaid y rhyddid i wneud hyn er mwyn cynnal y safon.  Llu o bobl o bob oed ar y Maes o fore gwyn tan nos a mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn tyrru i Faes B gyda’r nos i weld prif fandiau a pherfformwyr Cymru.  Wythnos o gystadlu, cymdeithasu a mwynhau gyda’r gorau eto.

“Felly wrth baratoi i adael Ynys Môn, hoffwn ddiolch i bawb, yn wirfoddolwyr lleol a chenedlaethol, swyddogion, ymwelwyr a thrigolion lleol am y croeso arbennig i’r ardal.  Roeddem wedi cael addewid o groeso da ym Môn a dyna a gafwyd.  Croeso, cydweithio ac ymroddiad ardderchog, a diolch o galon amdano.  Rydym ni’n troi ein golygon tuag at Gaerdydd rŵan, gydag Eisteddfod wahanol i’w chynnal yn y Bae'r flwyddyn nesaf.  Gobeithio’n arw y daw criw mawr atom o Fôn i ail-fyw rhai o atgofion hynod gofiadwy'r wythnos ddiwethaf ym Modedern.”