Alffa
10 Awst 2017

Alffa yw enillwyr prosiect Brwydr y Bandiau eleni, yn dilyn cystadleuaeth arbennig ar Lwyfan y Maes neithiwr, lle bu chwech o artistiaid a grwpiau’n perfformio.

Daeth Alffa i’r brig yn dilyn pedair rownd ranbarthol hynod lwyddiannus, mewn cydweithrediad gyda threfnwyr gigiau fel Clwb 4 a 6, y Parrot yng Nghaerfyrddin a Chlwb Ifor Bach.

Y beirniaid oedd Ifan Davies (Swnami), y DJ Elan Evans a Steffan Dafydd, trefnydd gigs Clwb Ifor Bach, a chyflwynydd y noson oedd Lisa Gwilym.

Y wobr eleni yw £1,000, a noddwyd gan gwmni Land and Lakes, cyfle i berfformio ym Maes B nos Sadwrn, sesiwn gyda ffotograffydd ynghyd ag erthygl nodwedd yng nghylchgrawn Y Selar.  Dros yr wythnosau diwethaf, cafodd pob band neu berfformiwr ar y rhestr fer sesiwn fentora gyda Mei Gwynedd, Osian Williams, Candelas neu Heledd Watkins, HMS Morris, er mwyn dysgu mwy am weithio o fewn y sîn roc Gymraeg.

Trefnir prosiect Brwydr y Bandiau gan Maes B a BBC Radio Cymru.

Alffa

Band roc blues o Lanrug yw Alffa, y ddau yn ddisgyblion chweched dosbarth yn Ysgol Brynrefail.  Mae Dion Jones and Siôn Land newydd ryddhau dwy gân ar y casgliad aml-gyfrannog Sesiynau Stiwdio Sain.  Cafodd y band chwarae yng Ngwobrau Selar fis Mawrth ac mae’r ddau yn edrych ymlaen yn arw at chwarae ym Maes B, a’r gystadleuaeth hon oedd y cam naturiol nesaf i’r bechgyn.