Heiddwen Tomos yn ennill y Fedal Ddrama
10 Awst 2017

Athrawes o Sir Gaerfyrddin sy’n derbyn Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Gan ddefnyddio’r ffugenw Twm Shwgryn, ei drama hi, Milwr yn y Meddwl, sy’n ymdrin â salwch PTSD ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd ddau ar bymtheg o geisiadau.  Bu Heiddwen yn agos at gipio’r Fedal yn y gorffennol, gan ddod yn ail yn 2014 ac yn drydydd y llynedd a 2013.  Eleni, hi oedd yr enillydd ac fe’i hanrhydeddwyd yn y seremoni ar lwyfan y Pafiliwn.

Cyflwynir y Fedal Ddrama am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.  Gwobrwyir y ddrama sy’n dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.  Mae Heiddwen Tomos yn derbyn Y Fedal Ddrama (er cof am Urien Wiliam, rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli). 

Y beirniaid eleni oedd Siân Summers, Sara Lloyd a Tony Llewelyn Roberts, ac wrth draddodi’r feirniadaeth ar ran y tri, meddai Tony Roberts, “Mae’n braf gweld cymaint yn fodlon mynd ati i ymroi o’u hamser i dasg sydd yn  anodd ac yn aml iawn ddim yn cael mwynhau mynegiant llawn eu llafur, sef cael gweld y gwaith yn ei ffurf derfynol, ar lwyfan. Mae cerdd yn gerdd o’r eiliad mae’n mynd ar bapur ond mae drama lwyddiannus yn dibynnu ar ymroddiad a gweledigaeth artistiaid eraill er mwyn ei dangos yn ei ffurf derfynol.

“Fel beirniaid roeddem yn ymwybodol iawn mai pwyso a mesur y cam cyntaf mewn proses o greu oeddem ni. ‘Roeddem yn chwilio am waith gan unigolion oedd yn berchen yr hanfodion sylfaenol i ddeialogi a llwyfannu eu syniadau ond hefyd roeddem yn gobeithio cael ein cyflwyno i wreiddioldeb mynegiant ac, os nad campwaith, o leiaf egin weledigaeth a ellid ei meithrin a’i mireinio.

Wrth sôn am waith Twm Shwgryn, dywed, “Dyma ddrama â chyflwyniad theatraidd a grymus. Mae’n ymwneud a salwch PTSD sydd yn dilyn cyfnod y prif gymeriad fel milwr gweithredol yn rhai o ryfeloedd mwyaf ffyrnig a ffiaidd y blynyddoedd diwethaf. Dilynwn ef wrth iddo geisio ymdopi gyda bywyd dinesydd cyffredin wedi iddo gael ei anafu a’i ddal mewn cadair olwyn.

“Mae’r ieithwedd yn llifo’n naturiol drwyddi draw. Mae yma dalpiau helaeth o fratiaith ac mae 'na ddefnydd o’r Saesneg ond nid diogi ieithyddol sydd yma. Cai’r Saesneg ei ddefnyddio fel llais y sefydliad milwrol Prydeinig sydd wedi gorthrymu'r prif gymeriad. Mae’r fratiaith yn adlewyrchu'r ffordd y mae aml i gymuned a haenau o gymdeithas yn y Gymru gyfoes yn defnyddio’r iaith. Os yw hynny’n drist, mae hefyd yn realistig, ac os mai pennaf fwriad drama yw codi drych at natur, yna’n sicr mae Twm Shwgryn yn gwneud hynny.  Mae ganddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth glir o theatr ac o’r hyn sydd yn gweithio yn y cyfrwng.

“Gan fod y gystadleuaeth yn gofyn am ddrama ‘sydd yn dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael cydweithio gyda chwmni proffesiynol’ yn ôl y testunau,  gallwn fod yn ffyddiog y bydd ein henillydd heddiw yn cael y cyfle dros y flwyddyn nesaf i adnabod a chryfhau'r gwendidau, datblygu ac amlygu’r cryfderau, i arbrofi gyda ffurfiau amgen o fynegiant ieithyddol ac ymestyn a mwynhau'r gwaith sydd eisoes wedi dod a hwy i’r fan hyn.”

Yn wreiddiol o Lanybydder, mae Heiddwen Tomos yn byw ym Mhengarreg, Sir Gaerfyrddin ac yn Bennaeth Cyfadarn y Celfyddydau Mynegiannol, Ysgol Bro Teifi, Llandysul.  Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eistedfod Llambed yn 2012, cystadleuaeth stori fer Taliesin a’r BBC yn 2015, ac chipiodd Gadair Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ddwywaith.  Eleni, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Dŵr yn yr Afon (Gwasg Gomer), ac mae hefyd wedi cyhoeddi straeon i Wasg y Bwthyn.

Mae’n briod â Siôn ac mae ganddynt dri phlentyn, Gruff, Swyn a Tirion.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern tan 12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch arlein, www.eisteddfod.cymru