Tony Thomas, Swyddog Technegol yr Eisteddfod
12 Awst 2017

Faint o luniau sydd wedi’u tynnu o flaen llythrennau eiconig y gair ‘Eisteddfod’ ar y Maes ym Modedern yr wythnos hon?

Ond faint ohonom sy’n ymwybodol o’r stori y tu ôl i’r llythrennau lliwgar?

Tony Thomas, Swyddog Technegol yr Eisteddfod fu’n gyfrifol am eu creu yn stordy’r sefydliad yn Llanybydder, Sir Gâr dros fisoedd hir y gaeaf nol yn 2013.  Ymddangosodd y gair ar y Maes am y tro cyntaf yn Sir Gâr yn 2014, ac ers hynny, mae’r gosodiad wedi dod yn rhan annatod o bob Maes.

Tony hefyd sy’n gyfrifol am y gair ‘Croeso’ sydd i’w weld ar y cylchdro rhwng yr A55 a phentref Bodedern, ac mae hwn hefyd wedi’i greu yn y gweithdy dros y gaeaf.  Ond yr hyn sydd fwyaf diddorol, efallai am y ddau osodiad yw’r ffaith eu bod wedi’u creu gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu dros y blynyddoedd - enghraifft berffaith o rywbeth sydd wedi dod yn ffasiynol iawn dros y blynyddoedd diwethaf - ‘upcycling’.

Meddai Tony, “Mae’r stand o dan y llythrennau i gyd yn dod o hen adeilad y Pafiliwn Celf a Chrefft oedd gennym ni yn yr 80au cyn y Lle Celf, a’r dur ar ben y llythrennau wedi’i dynnu o’r hen Babell Lên a oedd wedi’i storio yn ein stordy ers yr 80au.  Mae’n bwysig mynd ati i ail-ddefnyddio hen ddeunyddiau pan mae’n bosibl - does dim pwynt prynu pethau newydd yn ddiangen pan mae gennym ni hen ddigon o bethau wedi’u storio yn Llanybydder.

“Gellir creu cyfuniad o 1,200 o eiriau allan o’r llythrennau yn y geiriau ‘Croeso’ ac ‘Eisteddfod’ - ond wrth gwrs, tydi pob gair ddim yn gwneud synnwyr!”

Mae Tony’n gweithio i’r Eisteddfod ers deng mlynedd ar hugain, ac yn sôn sut mae pethau wedi newid yn ystod y cyfnod hwn.  Dywed, “Pan gychwynnais i gyda’r Eisteddfod, doedd dim stordy i’w gael.  Roeddem ni’n gorffen un prosiect ac yn symud ymlaen yn syth i ardal arall er mwyn dechrau adeiladu’r Maes.  Mae hyn wedi newid cymaint erbyn heddiw, ac erbyn hyn rydan ni’n dechrau gweithio ar y Maes ym mis Mehefin ac yn gorffen ym mis Medi, felly mae mwy o gyfle i fod yn greadigol a meddwl am bethau newydd i’w rhoi ar y Maes y flwyddyn ganlynol.

“Mae gweld pobl yn tynnu’u lluniau o flaen y gair ‘Eisteddfod’ a’r ffaith ei fod yn cael ei ddefnyddio fel rhan o set y pafiliwn yn fy ngwneud yn falch iawn.  Efallai bod y llythrennau wedi cymryd lle'r Pafiliwn Pinc erbyn hyn, ac mae’n brofiad arbennig iawn gweld pobl wrth eu boddau’n cael tynnu’u lluniau o flaen rhywbeth rydw i wedi’i greu. Dyna deimlad da!”