Cyflwyno Tlws Sbardun i'r Eisteddfod
20 Gorff 2016

Gydag ychydig wythnosau’n unig i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, mae trefnwyr yr ŵyl wedi derbyn tlws arbennig a fydd yn cael ei gyflwyno fel gwobr eleni.

Mae Cystadleuaeth Tlws Sbardun yn gwobrwyo cân wreiddiol ac acwstig ei naws, ac yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni.  Roedd Alun ‘Sbardun’ Huws yn un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig y blynyddoedd diwethaf, a’r bwriad yw cofio’i gyfraniad i fyd cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg.

Bydd yr enillydd yn derbyn Tlws Sbardun, sydd wedi’i gynllunio a’i greu gan yr artist Carwyn Evans, i’w gadw am flwyddyn a £500.  Mae’r Tlws a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan wraig Sbardun, Gwenno Huws, a ddywedodd, “Mae’n fraint cael sefydlu cystadleuaeth yn enw Sbard yn yr Eisteddfod Genedlaethol a diolch i’r Eisteddfod am gytuno i’r syniad.

“Roedd Sbardun yn ddyn creadigol iawn ac fe fyddai wrth ei fodd gyda’r Tlws hwn, sy’n ddarn o gelf.  Mae fy nyled yn enfawr wrth gwrs, i Carwyn am y gwaith cywrain, ond hefyd i Geraint Evans am gydlynu’r prosiect.

“Rwy’n gobeithio bydd y Tlws yn cael cartref teilwng bob blwyddyn ac y bydd y gystadleuaeth ei hun yn fodd o hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, y gerddoriaeth a oedd mor eithriadol o bwysig i Sbard.”

Mae Carwyn Evans, cynllunydd y Tlws yn enw cyfarwydd i Eisteddfodwyr ers blynyddoedd.  Yn enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn 2012, Ysgoloriaeth Artist Ifanc yr Eisteddfod yn 2000 a Gwobr Ifor Davies yn 2003 a 2007, roedd creu Tlws Sbardun yn anrhydedd i Carwyn, ac meddai, “Y brif weledigaeth ar gyfer y Tlws oedd uno ysbryd y broses greadigol a chydnabod cyfraniad diwylliannol pwysig Sbardun.

“Wrth drin a thrafod nifer o gynlluniau posib, fe wnes i weld llythyr gyda llofnod gosgeiddig Sbardun ar ei ddiwedd - ac o hynny ymlaen roedd yn amlwg taw’r gwaddol yma a’r ‘sign off’ o law'r dyn ei hun byddai’r motif gorau posib i’w osod ar y Tlws.

“Roeddwn wedi cyfarfod Sbardun wrth i mi gyfrannu at eitemau yn ymwneud gyda’r celfyddydau yn yr Eisteddfod. Roeddwn yn ymwybodol ei fod yn ‘heavyweight’ diwylliannol a chefais fy nharo ar ba mor hael ac addfwyn oedd e - sydd ddim yn syndod o gwbl wrth ystyried pa mor hael yr oedd drwy’i holl waith.  Mae’r haelioni a’r gwaddol yma yn parhau drwy gyfrwng y Tlws. 

Wrth dderbyn y Tlws ar ran yr Eisteddfod, dywedodd Elfed Roberts, “Rydym yn ddiolchgar i deulu a chyfeillion Sbardun am ddod atom i gynnig y gystadleuaeth, ac mae’n fraint i ni’i chynnal am y tro cyntaf yn Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni. 

“Mae cyfraniad Sbardun i gerddoriaeth Gymraeg yn arbennig, ac mae’n braf ein bod ni’n gallu cynnig cyfle i unigolyn neu grwpiau i fynd ati i gyfansoddi cân mewn arddull debyg i waith Sbardun yn enw’r Eisteddfod eleni ac yn y dyfodol. “

Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Emyr Huws Jones a Bryn Fôn, a chawn wybod a oes enillydd ddydd Iau 4 Awst am 16.00 yn Theatr y Maes, fel rhan o seremoni wobrwyo enillwyr yr Adran Gerddoriaeth.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni o 29 Gorffennaf – 6 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.