Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016 i fyfyriwr celf o Geredigion, am fideo sy’n cyfleu’r colled yn niwylliant Cymru.
Enillodd Gwenllian Llwyd y £1,500, a roddir eleni gan gwmni Alun Griffiths (Contractors) Ltd., am waith sy’n cyfuno gwead o ddarluniau a chlipiau ffilm. Bwriad artist ifanc, sy’n byw yn Nhalgarreg, ger Llandysul, yw cwestiynu sut mae’r capeli yn ei hardal wedi mynd yn llai ac yn araf ddirywio.
Yn ôl un o’r detholwyr Anthony Shapland, roedd gallu technegol a chymhlethdod ffilm Gwenllian Llwyd yn arbennig. “Roedd ei ffilm ‘Dirywiad a dadfeiliad’,” meddai, “yn gosod golygfeydd ac elfennau acwstig yn haenau a dangosodd y cysylltiad clir rhyngddi hi fel gwneuthurwr ffilm a’r bobl a’r lleoedd y mae’n eu dogfennu, artist sydd â llygad gwneuthurwr rhaglen ddogfen.
“Un o fy mhrif ddylanwadau i’r prosiect oedd mynychu cyrddau fy nhad,” meddai Gwenllian Llwyd. “Gan ei fod yn weinidog, mi fues yn rhai o’i gyrddau â sylwi mai dim ond dau neu dri person oedd yn mynychu’r gwasanaethau… O ganlyniad cefais syndod ac roeddwn am dynnu sylw’r cyhoedd i’r newid yma - y newid i’r hyn a arferai fod yn normal wrth i bobl fynychu’r gwasanaethau yn y capel bob dydd Sul a chymdeithasu gyda’i gilydd. Mae hyn yn araf ddiflannu.”
Ynghyd â dilyn ei thad o amgylch ei wasanaethau er mwyn ffilmio a thynnu lluniau bu Gwenllian Llwyd yn archwilio’r adeiladau, a chanolbwyntio ar y darnau dirywiedig sydd ynddynt. Bu hefyd yn edrych ar yr aelodau sy’n dod i’r capeli, o ran ei gwedd a’u presenoldeb.
“Fy mhrif nod pan oeddwn i’n gwneud y ffilm yma,” meddai, “oedd i bwysleisio a chyfleu colled sy’n amlwg yn niwylliant crefyddol, sydd wedi arwain at ddirywiad yn niwylliant Cymreig yn gyffredinol a’r iaith Gymraeg yn benodol.”
Mae modd gweld ‘Dirywiad a dadfeiliad’ yn Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni.
Mae Gwenllian Llwyd bellach yn fyfyrwraig yn Ysgol Celf a Dylunio Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Crewyd y ffilm pan oedd hi’n dilyn cwrs sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr.
Gwireddir Arddangosfa Agored Y Lle Celf mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.