30 Gorff 2016

Deunaw twr o grochenwaith pensaernïol, sy’n datod at iws bob dydd, sydd wedi ennill un o brif wobrau Celfyddydau Gweledol Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016.

Penderfynodd y detholwyr, Rachel Conroy, Helen Sear ac Anthony Shapland yn unfrydol i ddyfarnu’r Fedal Aur am Grefft a Dylunio i’r artist cerameg Lisa Krigel. Yn ogystal, mae’n derbyn y wobr ariannol lawn o £5,000 a rhoddir eleni gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Meddai Rachel Conroy: “Mae gwaith cerameg Lisa Krigel yn syfrdanol - gyda gweledigaeth artistig, medr technegol a dylunio rhagorol mewn cytgord.

“Mae’r llestri a wnaed â llaw - powlenni mezze a brecwast, potiau te a choffi, cwpanau a phlatiau - ac wedi’u pentyrru, yn drawiadol a hardd o’r dechrau. Ar yr edrychiad cyntaf, efallai yr awgrymir swyddogaeth - dolen neu big - ond gwrthrychau cerfluniol yw’r rhain; tyrau crochenwaith pensaernïol. O’u grwpio â’i gilydd ar fyrddau derw tebyg i drawstiau rheilffordd, maent yn creu dinaslun pen bwrdd. Mae’r gwydreddau’n symud drwy lwydion pŵl a gleision duraidd i liwiau melynllwyd cynhesach, sy’n adlewyrchu’r strwythurau concrid a’u hysbrydolodd. Pan gânt eu datgymalu, ddarn wrth ddarn, i’w cydrannau unigol, yn araf datgelir eu dibenion ymarferol. Gwrthrychau ydynt sy’n gwahodd cyffyrddiad a rhyngweithio. Fe fyddwn wrth fy modd yn eu defnyddio.” 

Ychwanegodd Helen Sear: “Mae gwaith Lisa Krigel yn wledd i’r llygad. Mae ffurf a swyddogaeth yn cyfuno’n berffaith, drwy ei chrefftu â chlai a gwydredd, wrth i lestri cegin harddwych bentyrru fel cerflun domestig. Mae ei ffurfweddau’n herio’r siwgraidd a’r addurniadol.”

“Cyfuniad y strwythurau enfawr sy’n llywio’i darnau, ac mae eu maint domestig yn gwneud y gwaith yn ddatganiad mor gyhyrog. Mae fel petai ei holl ddylanwadau o’r gorffennol wedi dod ynghyd i greu’r gweithiau unigryw hyn sydd â mwynhad chwarae a bwyd yn greiddiol iddynt.”

A hithau’n ferch i bensaer, mae Lisa Krigel yn cofio cael ei thywys o gwmpas nen-grafwyr hanner orffenedig yn Efrog Newydd pan oedd hi’n blentyn. Daeth i Gymru yn 1999 gan sefydlu stiwdio yng nghanolfan Fireworks yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar ysbrydolwyd ei gwaith gan bensaernïaeth ac mae ffotograffau o dyrau dŵr yn addurno’i gweithle.

Dyma’r tro cyntaf i Lisa Krigel arddangos yn Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gwireddir Arddangosfa Agored Y Lle Celf mewn partneriaeth â Chyngor Celfydyddau Cymru.