Croeso mawr i bawb yn yr Eisteddfod
30 Meh 2016

Ar fore cyntaf yr Eisteddfod yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau, mae’r neges yn glir – mae croeso mawr i bawb yn Nolydd y Castell, Y Fenni.

Gyda thros fil o weithgareddau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y Maes drwy gydol yr wythnos, y gobaith yw y bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i’r Fenni.  Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Mae’r Maes eleni mewn lleoliad arbennig, o fewn munudau i ganol y dref, ac yn hynod o gyfleus.  Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog pobl i ddod draw i weld beth sydd ar y Maes.

“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod hapus a chynhyrchiol iawn i ni fel Eisteddfod wrth weithio gyda gwirfoddolwyr lleol a Chyngor Sir Fynwy.  Mae’r gefnogaeth wedi bod yn ardderchog ac wrth i’r Maes agor ei giatiau'r bore 'ma, mae’n bleser diolch o waelod calon a thalu teyrnged i bawb a fu ynghlwm efo’r gwaith.

“Eisteddfod pobl Sir Fynwy a’r Cyffiniau yw hon, ac mae’r trigolion wedi disgwyl yn ddigon hir i ni ymweld â’r ardal – dros gan mlynedd!  Mae’r giatiau ar agor a’r croeso yn gynnes, felly dewch draw i’n gweld yn Nolydd y Castell.”

Mae gwasanaeth cyfieithu ar gael yn rhad ac am ddim yn y Pafiliwn ac mewn sesiynau ar draws y Maes yn ystod yr wythnos.  Ewch i’r caban cyfieithu o flaen y Pafiliwn am ragor o wybodaeth ac offer.

Os ydych yn dod atom am y tro cyntaf, beth am ymuno ag un o’n Teithiau Tywys?  Mae’r daith yn gadael y ganolfan Ymwelwyr (prif fynedfa) am 11.00 a 14.00 bob dydd.  Mae’r daith yn addas ar gyfer pawb.