3 Awst 2016

Cyhoeddwyd rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, a gyflwynir yng Nghaffi Maes B ddydd Gwener.

Bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac unwaith eto eleni, mae cymysgedd eclectig o gynnyrch ac artistiaid wedi cyrraedd y rhestr fer.  Y cyfnod dan sylw eleni oedd 1 Mawrth 2015 hyd at ddiwedd Ebrill 2016.

Bu rheithgor o unigolion sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.  Bydd y beirniaid yn dod ynghyd yn ystod yr Eisteddfod eleni er mwyn dewis enillydd.

Y deg albwm a ddaeth i’r brig oedd:

  • 9 Bach - Anian
  • Alun Gaffey
  • Band Pres Llareggub - Mwng
  • Brython Shag
  • Calan - Dinas
  • Cowbois Rhos Botwnnog - IV
  • Datblygu - Porwr Trallod
  • Plu - Tir a Golau
  • Swnami
  • Yucatan - Uwch Gopa’r Mynydd

Wrth gyhoeddi’r rhestr dywedodd un o drefnwyr y wobr, Guto Brychan, “Mae’n braf iawn gweld cymaint o amrywiaeth ar restr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn unwaith eto eleni.  Bydd yn ddiddorol gweld beth fydd barn y beirniaid yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

“Dyma’r trydydd tro i ni gyflwyno Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac mae’n bwysig bod yr Eisteddfod yn rhoi sylw haeddiannol i gerddoriaeth sydd wedi’i recordio neu’i greu’n ddiweddar.  Mae’n braf gweld nifer o artistiaid gwahanol ar y rhestr fer eleni, ac rwy’n sicr y cawn enillydd haeddiannol unwaith eto eleni.”

Llynedd, daeth Gwenno Saunders i’r brig, gyda’i halbwm cysyniadol, ‘Y Dydd Olaf’, gan ennyn canmoliaeth fawr gan y rheithgor a’r beirniaid.  Ers hynny, mae Gwenno wedi ennill Gwobr y Welsh Music Prize a’r albwm wedi derbyn adolygiadau ardderchog yng Nghymru a thu hwnt. 

Bydd yr enillydd yn derbyn tlws wedi’i gomisiynu’r arbennig ar gyfer yr achlysur gan Ann Catrin Evans.

-diwedd-

Manylion am yr artistiaid ar y rhestr fer

Anian – 9 Bach

Mae ‘Anian’, albwm diweddaraf 9 Bach yn angerddol am gyflwr y byd, wrth archwilio themâu cyfoes, yn wahanol i’w halbwm diwethaf, ‘Tincian’ a oedd yn coffau hanesion y gorffennol.  Mae yma ganu Cymraeg arallfydol nodweddiadol i gyfeiliant gitâr y corsydd, telyn, curiadau dyb trymaidd ac adran ryddm sy’n dyrnu.  Mae’r caneuon yn amrywio o ryddmau tonnog tawel i osodiadau piano a haenau lleisiol mewn caneuon eraill, sy’n dangos lleisiau a doniau’r band yn eu holl ogoniant. 

Alun Gaffey

Gyda’i albwm gyntaf fel artist unigol, mae Alun Gaffey, sy’n gyn-gitarydd y grŵp Race Horses yn cyflwyno cerddoriaeth sy’n bleth berffaith o electronica cyfoes gyda bloedd i’r gorffennol a grwpiau fel Brodyr y Ffin.  Gyda harmonïau swynol, mae’i gerddoriaeth yn daith felfedaidd hyfryd i’r synau, ac yn groestoriad rhwng Alex Turner Cymraeg ac adran ryddm tegan allweddellau plentyn!

Band Pres Llareggub – Mwng

Dyma’r tro cyntaf yn hanes cerddoriaeth Cymraeg i albwm cyfan gael ei hail-drefnu, ail-recordio a’i ail-ryddhau yn ei chyfanrwydd.  Cymerodd y band yr albwm ‘bop’ Gymraeg fwyaf llwyddiannus ac arloesol erioed, a’i pherfformio gyda chymysgedd lliwgar o gerddoriaeth pop a dawns modern wedi’i gyfuno gyda sain unigryw'r band pres traddodiadol.  A’r canlyniad?  Albwm hollol unigryw, heb gitâr ar gyfyl y lle!

Brython Shag

Band o ardal Blaenau Ffestiniog sy’n cynnwys dau o gerddorion mwyaf profiadol Cymru, Ceri Cunnington a Gai Toms yw Brython Shag, gyda Deian Jones ar y bas a Jason Hughes ar y drymiau.  Mae’r albwm yn gymysgedd o funk, punk a roc amgen, ac mae’r albwm cyntaf hwn eisoes wedi derbyn adolygiadau ardderchog gan y wasg a’r cyfryngau.

Calan – Dinas

Ffidlau, gitar, accordion, pibau a stepio, a’r cyfan oll yn ffrwydro wrth i Calan berfformio’u halbwm newydd ‘Dinas’.  Yn gymysgedd afieithus o alawon traddodiadol a darnau newydd, mae arddull unigryw Calan yn chwa o awyr iach ac yn sicr yn gyflwyniad arbennig i gerddoriaeth werin Gymraeg o’r radd flaenaf.

Cowbois Rhos Botwnnog – IV

Yn ffrwyth dwy flynedd o lafur, dyma bedwerydd albwm y brodyr o Botwnnog, a dyma’r tro cyntaf i’r band gynhyrchu’u halbwm eu hunain.  Gan droedio’r ffin rhwng y cyfarwydd a’r dieithr, mae’r albwm hwn yn dangos dylanwadau eang a newydd ar eu cerddoriaeth, gan gynnwys ABBA, Roxy Music a Leonard Cohen. 

Datblygu – Porwr Trallod

Porwr Trallod yw albwm llawn newydd cyntaf Datblygu ers 22 o flynyddoedd, ac unwaith eto, mae’r bartneriaeth rhwng David R Edwards a Pat Morgan yn tyrchu’n ddwfn dan wyneb cymdeithas fodern a than groen unigolion.  Dyma albwm sy’n pontio sŵn amrwd y dyddiau cynnar gyda threfniannau ‘minimal’ digidol yr 21ain ganrif, gan herio a gorfodi’r gynulleidfa i wynebu neges newydd y grŵp, ‘Bywyd yw Popeth’.

Plu – Tir a Golau

Dyma drydydd albwm y brawd a dwy chwaer Elan, Marged a Gwilym Rhyd o Fethel, Caernarfon, a dyma’r trydydd tro i’r grŵp gwerin cyfoes gyrraedd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn.  Mae llawer o’r caneuon wedi’u hysbrydoli gan y tir o’u cwmpas, ac yn gyfle i arbrofi gyda sain drwy adeiladu haenau ac alawon. 

Sŵnami

Anodd yw credu mai dyma albwm llawn cyntaf Sŵnami, gan fod eu caneuon mor adnabyddus drwy Gymru.  Dyma albwm o synth-pop uniongyrchol, sydd yn fwy personol na chaneuon y gorffennol, ond yn llai amwys yn ôl y band.  Dyma fand sydd wedi profi llwyddiant drwy Gymru a thu hwnt, ac maen nhw wedi cynrychioli Radio 1 yn Groningen i Ŵyl Eurosonic.

 

Yucatan – Uwch Gopa’r Mynydd

Dyma ail albwm llawn Yucatan, ac mae gyfanwaith dwys, sinematig ac emosiynol gyda’r cyffyrddiadau lleiaf.  Gyda dylanwadau cerddorol megis Radiohead, Hans Zimmer a Burt Bacharach, dyma albwm sy’n llawn synau gitarau soniarus a churiadau drymiau cyntefig.  Cynhyrchwyd yr albwm mewn cydweithrediad gyda David Wrench, cynhyrchydd sydd wedi gweithio gyda rhai o’r enwau mwyaf yn y byd cerddoriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.