Heno cawn glywed pwy yw enillydd prosiect Brwydr y Bandiau wrth i’r chwe band sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol berfformio ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau.
Ar ôl pedair rownd ranbarthol hynod lwyddiannus, mewn cydweithrediad gyda threfnwyr gigiau fel Clwb 4 a 6 a’r Parrot yng Nghaerfyrddin, heno yw pinacl y prosiect a lansiwyd ddechrau’r flwyddyn.
Y bandiau fydd yn ymddangos heno yw Siân Richards, Jacob Elwy, Glain Rhys, Pyroclastig, Chroma a Henebion. Mae’r chwech wedi elwa o gyfnod mentora gyda Mei Gwynedd o grwpiau Sibrydion a Big Leaves, ac mae’n un sy’n rhedeg ei label cerddoriaeth ei hun.
Roedd cystadleuaeth 2015 yn llwyddiannus iawn, a rhoddwyd llwyfan i nifer o grwpiau sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn y sîn dros y misoedd diwethaf, gydag amryw’n ymddangos ar lwyfannau niferus yr Eisteddfod yn ystod yr ŵyl eleni. Ymysg y rhain mae Raffdam, Hyll, Cordia, Terfysg a Cadno - grwpiau sy’n parhau i greu cerddoriaeth yn y Gymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru.
Gyda thros ugain o fandiau wedi cystadlu, mae’r safon yn uchel a dymunwn yn dda i bob un o’r rheini sy’n ymddangos ar y llwyfan heno.
Trefnir prosiect Brwydr y Bandiau gan Maes B, C2 BBC Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru.
Amserlen Brwydr y Bandiau heddiw:
16.00 Siân Richards
16.40 Jacob Elwy
17.20 Glain Rhys
18.00 Pyroclastig
18.40 Chroma
19.20 Henebion
Bydd Candelas yn cloi Llwyfan y Maes heno am 20.00 ar ôl diwedd y gystadleuaeth.