Gig y Pafiliwn 2016
3 Awst 2016

Mae prom Roc cyntaf yr Eisteddfod yn fwy o gig na chyngerdd - teyrnged gerddorol i’r Sîn Roc Gymraeg, gyda phrif artistiaid y sîn, Yr Ods, Sŵnami a Candelas yn perfformio yn y Pafiliwn nos Iau 4 Awst.

Gyda phafiliwn newydd sbon ar y Maes eleni, mae’r cynnwys yn ogystal â’r diwyg yn esblygu, a bydd yr adeilad yn cael ei drawsnewid am un noson yn unig wrth i’r tri band rannu llwyfan a pherfformio gyda chyfeiliant cerddorfa broffesiynol.

Huw Stephens, y DJ amlwg o Radio 1 fydd yn cyflwyno, ac meddai, “Rwy’n credu’i fod yn bwysig bod yr Eisteddfod yn parhau i geisio denu cynulleidfaoedd newydd.  Rydym ni’n arbennig o dda am ddathlu’r gorffennol, ond rwy’n credu bod rhaid dathlu’r hyn sy’n digwydd nawr hefyd.

“Yr Eisteddfod yw prif ddigwyddiad y calendar cerddorol Cymreig ers blynyddoedd, ac mae hon yn mynd i fod yn un o nosweithiau pwysicaf hanes yr Eisteddfod.  Dyma’r noson pan fydd y sîn danddaearol yn ffrwydro ar lwyfan mwyaf eiconig Cymru.

“Pwy fyddai wedi gallu dychmygu y byddai’r sîn a gychwynnodd nol yn yr 80au yn cyrraedd llwyfan y Pafiliwn - a hynny gyda chyfeiliant cerddorfaol?  Mae’r SRG yn bendant wedi cyrraedd!”

Bydd y Welsh Pops Orchestra yn cyfeilio ar y noson gydag Owain Llwyd yn arwain.

Mae Candelas wedi mynd o nerth i nerth ers cyhoeddi’u halbwm cyntaf, gyda chaneuon fel ‘Anifail’ a ‘Symud Ymlaen’ yn anthemau ar draws y sîn.

Mae Yr Ods, band sy’n gyfrifol am lond lle o ganeuon canadwy yn feistri ar gyfuno synau indie siarp gydag arddull synth ddaw bron yn syth o’r 80au.  Gyda deunydd newydd i’w berfformio, dyma un o unig gigs y band yr haf yma.

Mae Sŵnami, sêr y sîn o Ddolgellau, yn dilyn ôl troed rhai o fandiau indie gorau’r DU, Arctic Monkeys, Bombay Bicycle Club a Catfish & the Bottlemen.  Mae cenhedlaeth gerddorol-soffistigedig o Gymry wedi dawnsio a syrthio mewn cariad gyda setiau byw hollwych Sŵnami, a bydd hwn yn gyfle i gyflwyno’u hanthemau heintus i gynulleidfa newydd.

Nol at Huw, “Alla i ddim disgwyl i glywed y bandiau yma gyda chyfeiliant cerddorfaol.  Fe fydd yn brofiad anhygoel i’r bandiau a’r gynulleidfa.  Diolch o galon i’r Eisteddfod am drefnu’r fath noson.”