Elinor Gwynn yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni, ac fe’i coronwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn yn Y Fenni heddiw.
‘Llwybrau’ oedd thema’r gystadleuaeth eleni, a’r dasg oedd creu casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau, ac ymgeisiodd 33 o feirdd yn y gystadleuaeth.
Y beirniaid oedd Siân Northey, Menna Elfyn ac Einir Jones. Roedd y tri beirniad yn unfrydol mai gwaith Carreg Lefn oedd yn fuddugol, gyda chanmoliaeth uchel i’r casgliad o gerddi a gafwyd gan y bardd. Wrth draddodi’r feirniadaeth, dywedodd Siân Northey, “Mae yna rhai pobl 'da chi'n gwirioni efo nhw'r eiliad 'da chi'n eu cyfarfod, mae yna eraill y dowch i'w deall a'u caru dros gyfnod o amser. Perthyn i'r ail griw oedd gwaith Carreg Lefn i mi, ac i Einir dw i'n credu, tra bu i Menna ymserchu ar y darlleniad cyntaf.
“Mae Menna ac Einir yn eu beirniadaethau wedi cyffelybu'r cerddi i waith celf. A darluniau gawn ni yma, darluniau celfydd a gwreiddiol ac fel y dywed Menna "heb ffrils na ffiloreg".
“Cawn ein tywys ar hyd gwahanol lwybrau i weld y pethau a welodd Carreg Lefn - y gŵr â dementia yn mynnu cael hyd i garreg y cred bod ysgrifen arni, y traeth a gerddodd y bardd ar ei hyd y llynedd hefyd, y profiad o grwydro'r prom rhywbryd rhwng nos a dydd.
“Rhaid dilyn y bardd ac ymddiried ynddo ei fod yn dangos pethau o bwys i ni, ac y mae'r bardd yntau'n ymddiried yn ei waith ac yn ymddiried yn ei ddarllenydd i wneud yr hyn a fynno o'i gerddi.
“Arwydd o gasgliad da, o gasgliad cyson ei safon, yw ei bod yn anodd penderfynu pa linellau i'w dyfynnu. Ond nid oes raid i mi boeni, gan ei fod yn bleser cyhoeddi bod y tair ohonom yn gytûn mai Carreg Lefn sydd yn llwyr haeddu coron Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau.”
Magwyd Elinor Gwynn yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin. Gwyddoniaeth, byd natur, a chrwydro yn yr awyr agored oedd ei diddordebau mawr, ac aeth ymlaen i astudio Swoleg a Botaneg ac yna arbenigo a chymhwyso ymhellach mewn Cyfraith Amgylcheddol.
Mae hi wedi dilyn gyrfa yn y maes amgylcheddol ac wedi gweithio mewn sawl rhan o Gymru yn gofalu am dirweddau, cynefinoedd, a bywyd gwyllt: ymhlith yr ardaloedd hyn mae arfordir sir Benfro, Canolbarth a Gororau Cymru, Eryri a Phen Llŷn. Mae hi hefyd wedi gweithio ar brosiectau treftadaeth dros y ffin yn Lloegr a’r Alban. Mae hi wrth ei bodd yn rhannu ei diddordeb mewn tirwedd, amgylchedd a threftadaeth gyda phobl eraill ac yn mwynhau’r holl drafod difyr am y maes gyda chyfeillion a chydweithwyr.
Mae ganddi ddiddordeb mawr yn y berthynas rhwng iaith a thirwedd; ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar brosiect treftadaeth iaith i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, ac yn gobeithio dechrau cyn hir ar waith a fydd yn edrych ar y cysylltiad rhwng iaith ac ecoleg ar hyd arfordir y gorllewin.
Ardal Sir Fynwy sydd wedi ysbrydoli’r cynllun ar gyfer y Goron eleni, gyda’r artist, Deborah Edwards yn awyddus i ddathlu’r tirlun hardd, y tirnodau pensaernïol hynod a threftadaeth ddiwylliannol y sir. Rhoddir y Goron gan Gymreigyddion Y Fenni, a daw’r wobr ariannol gan Alun Griffiths (Contractors) Ltd.
Mae’r Goron yn cynnwys nifer o ffenestri, gyda’r amlinelliad wedi’i gymryd o un o ffenestri Abaty Tyndyrn. Ceir golygfa wahanol o’r sir ym mhob ffenest, ac mae’r rhain yn cynnwys cestyll Y Fenni, Rhaglan, Cil-y-Coed a Chas-gwent, yn ogystal â neuadd farchnad enwog Y Fenni, Pont Hafren a melin wynt Llancaio.
Mae Arglwyddes Llanofer, un a fu mor weithgar dros yr iaith a’n diwylliant, wedi’i chynrychioli yn y Goron hefyd, ynghyd â bryniau a mynyddoedd Ysgyryd Fawr, Blorens a Phen-y-fâl, a nifer o elfennau eraill sy’n rhan bwysig o fywyd a hanes bro’r Eisteddfod.
Mae gan bob ‘ffenest’ ddwy haen, y gyntaf yn ddalen solet, gyda’r manylion wedi’u rhwyllo â llaw, gan ddefnyddio llif rhwyllo. Mae’r ail haen wedi’i chreu o linluniau wedi’u ffurfio mewn darn sgwâr o weiren arian. Gwehyddwyd y gwaith tecstilau gan wehyddwyr llaw Sioni Rhys yn eu stiwdio ym Mhandy, gan ddefnyddio gwehyddiad lleol traddodiadol.
Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni tan 6 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.