Guto Dafydd, enillydd Coron yr Eisteddfod ddwy flynedd yn ôl, yw enilllydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.
Tasg y naw a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, sy’n rhoddedig gan Gymuned Llanofer.
Y beirniaid oedd Jon Gower, Fflur Dafydd a Gareth F Williams, ac wrth draddodi’r feirniaidaeth dywedodd Jon Gower, “Nofel yw Ymbelydredd gan ‘246093740’ am yr hyn a ddigwydd i ŵr ifanc o Wynedd wrth iddo ddilyn cwrs radiotherapi ym Manceinion.
“Mae hon yn nofel wych, ac mae’r awdur i’w ganmol, nid leiaf oherwydd iddo lwyddo i osgoi unrhyw sentimentalrwydd a fuasai wedi baglu nifer o awduron llai medrus.
“Mae’r ffaith i’r nofel gael ei lleoli ym Manceinion, ac i’r byd anghyfarwydd, dinesig hwn gael ei ddarlunio trwy lygaid Cymro, hefyd yn chwa o awyr iach, ac mae’r arddull yn llwyddo i fod yn gynnil ond eto’n synhwyrus, yn ddadansoddiadol, ac yn athronyddol. Er i’r awdur wneud bob ymdrech i gryfhau’r naratif trwy wau is-blot terfysgol i mewn i’r stori, ar adegau roedd hyn yn teimlo fel gorymdrech ar ran yr awdur.
“Wedi dweud hynny tipyn o gamp yw creu nofel sy’n teimlo’n gyfoes ac yn Ewropeaidd, tra’n llwyddo i fod yn gwbl Gymreig ar yr un pryd – ac mae’n cynnwys dychan digon tywyll ar adegau, sy’n gwneud i ni ystyried ein diwylliant a’n traddodiadau o’r newydd.
“Dyma’r awdur sydd â’r weledigaeth gryfaf, ddifyrraf, ac ef neu hi sy’n haeddu’r wobr hon eleni, gyda nofel rymus a fydd yn cyfoethogi bydoedd yr holl ddarllenwyr a ddaw ar ei thraws.”
Yn enedigol o Drefor, aeth Guto Dafydd i Ysgol yr Eifl, Trefor, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, a Choleg Meirion-Dwyfor cyn graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Ar ôl bwrw’i brentisiaeth mewn eisteddfodau lleol, enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2013 a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014.
Mae wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, Ni Bia’r Awyr (Cyhoeddiadau Barddas), nofel dditectif i bobl ifanc, Jac (Y Lolfa), a nofel i oedolion, sef Stad (Y Lolfa). Cymer ran yn aml mewn digwyddiadau llenyddol o bob math. Mae wedi ymddangos ar y teledu a’r radio sawl tro i drafod llenyddiaeth, ac mae’n ymrysonwr ac yn dalyrnwr brwd. Mae’n un o’r tîm creadigol sydd wrthi’n creu cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, a fydd yn seiliedig ar y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Guto’n byw ym Mhwllheli gyda’i wraig Lisa a’u plant, Casi Mallt a Nedw Lludd. Wrth ei waith bob dydd, mae’n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg fel Swyddog Cydymffurfio. Yn ei amser hamdden, mae’n drysorydd Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr ac yn aelod o bwyllgor gwaith Barddas.
Yn ystod hydref 2015, bu’n rhaid iddo gael cwrs o radiotherapi ar ffibromatosis ymosodol ar wal y frest. Y cyfnod o chwe wythnos a dreuliodd ym Manceinion ar gyfer y driniaeth honno yw’r sail ar gyfer y nofel Ymbelydredd.
Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni tan 6 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.