4 Awst 2016

Chroma yw enillwyr prosiect Brwydr y Bandiau eleni, yn dilyn cystadleuaeth arbennig ar Lwyfan y Maes neithiwr, lle bu chwech o artistiaid a grwpiau’n perfformio.

Daeth Chroma i’r brig yn dilyn pedair rownd ranbarthol hynod lwyddiannus, mewn cydweithrediad gyda threfnwyr gigiau fel Clwb 4 a 6 a’r Parrot yng Nghaerfyrddin.

Y beirniaid oedd Ifan Davies (Swnami), Mei Gwynedd (Sibrydion) a Heledd Watkins (HMS Morris), a chyflwynydd y noson oedd Lisa Gwilym.

Y wobr eleni yw £1,000, cyfle i berfformio ym Maes B nos Sadwrn, sesiwn gyda ffotograffydd ynghyd ag erthygl nodwedd yng nghylchgrawn Y Selar.  Dros yr wythnosau diwethaf, cafodd pob band neu berfformiwr ar y rhestr fer sesiwn fentora gyda Mei Gwynedd, er mwyn dysgu mwy am weithio o fewn y sîn roc Gymraeg.

Trefnir prosiect Brwydr y Bandiau gan Maes B, C2 BBC Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru.

Chroma

Bu Zac a Liam mewn sawl band yn ardal Pontypridd cyn ffurfio Chroma gyda Katie. Serch hynny, ar ddamwain daeth Katie’n brif gantores ar fand alt-roc trwm o’r Cymoedd.

Cafodd Katie sioc pan ddaeth i’r ymarfer cyntaf a sylwi nad oedd hi’n mynd i ysgrifennu caneuon acwstig!

Bandiau bach - ond rhai sy’n creu lot o sŵn! - sy’n dylanwadu Chroma, bandiau fel The White Stripes, Biffy Clyro, Slave a Marmozets.

Y cam nesaf ar ôl Brwydr y Bandiau yw ysgrifennu albwm a chyhoeddi EP, mynd ar daith a chwarae mwy o gigs, gan gynnwys mynd ar daith.

Y perfformwyr eraill ar y rhestr fer oedd Siân Richards, Jacob Elwy, Glain Rhys, Pyroclastig a Henebion.