4 Awst 2016

Llywelyn Elidyr Glyn o Lanllyfni, Caernarfon, yw enillydd cyntaf Tlws Alun Sbardun Huws, a gyflwynir am y tro cyntaf eleni am gân wreiddiol ac acwstig ei naws.  

Cyhoeddwyd hyn mewn seremoni arbennig i anrhydeddu enillwyr cystadlaethau cyfansoddi cerddoriaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni heddiw.

Wrth draddodi’r feirniadaeth dywedodd Emyr Huws Jones ar ran ei hun a Bryn Fôn, “Roedd y gân yma’n taro o’r gwrandawiad cyntaf.  Mae geiriau gwych yma ac mae’r alaw yn ychwanegu atynt yn arbennig iawn. Yr ymateb cyntaf oedd, efallai fod y gân angen ‘middle 8’, mynd i rwla arall, yn gerddorol. Ond o wrando eto mae’r cyfansoddwr wedi bod yn ddewr ac yn gelfydd i adael i’r alaw orwedd yn ei symlrwydd. Y math o beth y byddai Alun Sbardun Huws wedi ei wneud. 

“Roedd pedair cân yn sefyll allan ac yn apelio atom yn fwy na’r lleill o’r cychwyn cyntaf sef eiddo Eos Orwig, Dau Dim Dau, Llew Blew a Nel.  Anodd iawn, iawn fu dewis rhwng y rhain ac mae’r pedwar cyfansoddwr yn llwyr haeddu’r Tlws a’r wobr ond yn anffodus rhaid dewis un ac enillydd Tlws Sbardun eleni, o drwch blewyn yn unig ydy Llew Blew.” 

Ganwyd Llywelyn Elidyr Glyn ym Mangor yn 1990. Magwyd yn Waunfawr ger Caernarfon hyd nes oedd yn unarddeg oed yna symudodd i Lanllyfni. O fanno aeth i’r Ysgol Uwchradd yng Nghaernarfon ac yn y cyfnod hwn dechreuodd ysgrifennu caneuon gyda’i ffrind Meredydd Wyn Humphreys.

O’r Ysgol aeth ymlaen i astudio Eigioneg ym Mangor. Yno daliodd ati i ysgrifennu gyda’r un ffrind, heb unrhyw gynnyrch swyddogol yn deillio, a’r caneuon yn cael eu perfformio yn unig i’w cyd-fyfyrwyr.

Wedi derbyn gradd gyfatebol i Feistr ar ôl pedwar blynedd o astudio, cafodd aros am flwyddyn arall  fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor.

Yn ystod y flwyddyn hon dysgodd i chwarae’r ffidil drwy ‘jamio’ yn Y Glôb ym Mangor Uchaf yn ystod y sesiynau Mic Agored.  Ers hyn y mae wedi bod yn perfformio yn rheolaidd gyda Gwilym Bowen Rhys, yng Nghymru a thu hwnt.

Ers ei flwyddyn fel Llywydd y mae wedi bod yn gweithio fel cymhorthydd yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon hyd nes dechrau’r haf eleni. Yn ystod y cyfnod hwn y mae ef a’i ffrind Meredydd o’r diwedd wedi dechrau perfformio’u cyfansoddiadau eu hunain o dan yr enw ‘Bwncath’.

Mae Cystadleuaeth Tlws Sbardun yn gwobrwyo cân wreiddiol ac acwstig ei naws, ac yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni.  Roedd Alun ‘Sbardun’ Huws yn un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig y blynyddoedd diwethaf, a’r bwriad yw cofio’i gyfraniad i fyd cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg.

Bydd yr enillydd yn derbyn Tlws Sbardun, sydd wedi’i gynllunio a’i greu gan yr artist Carwyn Evans, i’w gadw am flwyddyn a £500.  Mae’r Tlws a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan wraig Sbardun, Gwenno Huws.