Bu Llywydd Llys yr Eisteddfod, Garry Nicholas, yn siarad wrth i’w gyfnod yn arwain yr Eisteddfod ddirwyn i ben ar ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau.
Meddai, “Weithiau, daw popeth ynghyd i greu Eisteddfod wych. Mae ‘na frwdfrydedd yn lleol ac yn genedlaethol, cystadlu arbennig ac awyrgylch gwych ar y Maes ac yn y dref leol. Digwyddodd hyn eleni yn Sir Fynwy.
“Mae hon yn Eisteddfod a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer ac yn cael ei chofio fel gŵyl hapus a chyfeillgar, pan ddaeth y wlad i ardal o Gymru a oedd heb groesawu’r Eisteddfod ers dros ganrif, a lle'r oedd y croeso’n gynnes a hael.
“Digon bach oedd ein tîm o wirfoddolwyr yn lleol, ond cafwyd ymateb gwych i’r her, a hynny gyda’r fath frwdfrydedd ac egni, ac mae’n rhaid llongyfarch pob un ohonyn nhw. Dan arweiniad Frank Olding, gweithiodd y tîm yn ddiflino a hapus am bron i ddwy flynedd, yn codi ymwybyddiaeth ac arian mewn ardal nad yw’n cael ei chysylltu gyda’r Gymraeg a’r Eisteddfod yn draddodiadol. Gan weithio mewn partneriaeth gyda’r awdurdod lleol, cyrhaeddodd y Gronfa Leol £300,000. Eu gwaith hwy greodd lwyddiant yr wythnos ddiwethaf, ac rydym yn diolch iddyn nhw am bopeth.
“Mae cael perthynas gref gyda’r awdurdod lleol yn bwysig iawn wrth gynllunio digwyddiad o’r maint hwn, ac roedd Cyngor Sir Fynwy’n ardderchog. Roedden nhw’n deall beth oedd cynnal yr Eisteddfod yn ei olygu i’r ardal, a chydiodd y swyddogion a’r aelodau’n dynn yn y cysyniad a mynd amdani, gan weithio gyda ni drwy gydol y broses. Y cyngor oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth bysiau gwennol, ac rwy’n siŵr bod pawb yn cytuno bod y system wedi gweithio’n arbennig o dda yn ystod yr wythnos. Diolch i’r cyngor am eu gweledigaeth i wahodd yr Eisteddfod i Sir Fynwy a gobeithio y byddwn yn cael dychwelyd mewn llawer llai na 103 o flynyddoedd!
“Rwyf eisoes wedi dweud ei bod hi’n Eisteddfod hapus. Roedd hi hefyd yn Eisteddfod bwysig, yr ŵyl pan ddaeth cenhedlaeth newydd o feirdd a llenorion i’r brig. Mae llawer o’n hawduron ifanc dawnus wedi dod yn agos iawn at ein prif wobrau dros y blynyddoedd, ond eleni, roedd y rhan fwyaf o’r prif enillwyr o dan ddeugain oed. Cafodd Guto Dafydd, Eurig Salisbury, Gareth Olubunmi Hughes, Aneirin Karadog a Hefin Robinson - a ddaeth yn ail yn y Fedal Ddrama'r llynedd a thrydydd y flwyddyn cynt - eu cyfle i eistedd yng Nghadair yr Eisteddfod, ond yn y pen draw, Aneirin oedd yr un gyda’r pen tost yn ceisio gweithio allan sut i fynd â’i Gadair adref i Bontyberem mewn car teulu bach. Ond mae’n broblem braf i’w chael!
“Ac wrth i ni ddathlu llwyddiannau ein llenorion ifanc, mae’n rhaid crybwyll Helena Jones, ar lwyfan y Pafiliwn pythefnos cyn ei chanfed pen blwydd, yn dod yn drydydd yng nghystadleuaeth Llefaru Unigol i Ddysgwyr. Y ddau begwn oed yn dangos bod yr Eisteddfod yn ŵyl i bobl o bob oed!
“Canolbwynt y Maes eleni oedd y Pafiliwn newydd. Y flwyddyn gyntaf heb y Pafiliwn pinc eiconig a fu’n gymaint o gyfaill am ddegawd gyfan. A fyddai’r Pafiliwn newydd yn llwyddiant? Beth fyddai ymwelwyr yn ei feddwl? A fyddai croeso i’r newid? O fewn ychydig fariau i gychwyn y cyngerdd agoriadol nos Wener, roedd yr ateb yn glir. Roedd yr Eisteddfod wedi gwneud y penderfyniad cywir. Erbyn cyngerdd Catrin Finch nos Fawrth, roedd pawb yn unfrydol. Dyma leoliad gorau’r Eisteddfod erioed, gyda’r sain a’r goleuadau’n trawsnewid profiad pawb.
“Ac erbyn y gig yn y Pafiliwn nos Iau? Wel, dyna noson. Pawb yn y Pafiliwn dan deimlad, gyda’r hash nod #nosonorarioed i’w weld ar Trydar, a’r rheini oedd heb ddod i’r gig methu credu’u bod nhw wedi methu’r fath brofiad – yn y Pafiliwn a hynny yn Y Fenni. Y cwestiwn dros y Maes tan ddiwedd yr wythnos oedd ‘oeddet ti yno?’ – noson sydd eisoes yn rhan o hanes eiconig yr Eisteddfod.
“Rydw i wedi gweld nifer fawr o ddatblygiadau yn ystod fy nhair blynedd fel Llywydd yr Eisteddfod – llawer mwy ers i mi ddechrau cystadlu flynyddoedd yn ôl. Mae pob Eisteddfod yn wahanol, a dyma yw’r gyfrinach – gallu’r Brifwyl i esblygu a newid. Roedd yr Eisteddfod eleni’n wahanol i Faes agored mawr Meifod, a bydd Ynys Môn yn wahanol eto. Ac yn 2018, byddwn yn gwahodd Cymru gyfan i’r Eisteddfod ddi-ffens, profiad gwahanol eto, arbrawf a fydd yn sicr o’n helpu ni i siapio gwyliau a phrosiectau’r dyfodol.
“Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld pa mor bwysig yw’r Eisteddfod i bobl Cymru. Mae croeso cynnes i bawb ar y Maes. Eleni, cafodd mwy o bobl nag erioed o’r blaen fudd o’r offer cyfieithu rhad ac am ddim - ar rai adegau roedd 20% o gynulleidfa’r Pafiliwn yn gwisgo clustffonau cyfieithu. Mae hyn yn gwneud gŵyl sydd â’i phrif amcan yn hyrwyddo a hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn hygyrch i bawb, rhywbeth sy’n bwysig iawn i’r trefnwyr a’n gwirfoddolwyr i gyd.
“Wrth i fy nghyfnod fel Llywydd ddirwyn i ben, hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r Eisteddfod; y tîm bach iawn o staff ymroddedig sy’n gweithio oriau hynod o hir er budd y prosiect a’r ŵyl; y gwirfoddolwyr sy’n asgwrn cefn i’r gwaith yn lleol a chenedlaethol; y gymuned leol am gofleidio’r ŵyl a rhoi cymaint o groeso i ni.
“Ond mae’n rhaid i’r diolch mwyaf fynd i’n hymwelwyr ni, y 140,297 o bobl a daeth drwy’r giatiau'r wythnos ddiwethaf, llawer ohonyn nhw erioed wedi bod i Sir Fynwy o’r blaen, ond yn ddi-os, bydd nifer fawr yn dychwelyd, ar ôl syrthio mewn cariad gyda’r ardal a’r croeso. Diolch i bob un ohonoch o waelod calon am gynnal yr wyl a dod atom i un o’r Eisteddfodau gorau a gynhaliwyd ers tro byd. Diolch yn fawr.”