Gareth Olubunmi Hughes yn ennill Tlws y Cerddor, 2016
3 Awst 2016

Gareth Olubunmi Hughes yw enillydd Tlws y Cerddor eleni, ac fe’i hanrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn heno.

Yn enedigol o Gaerdydd, mae Gareth yn gyn-ddisgybl o Ysgol Bro Eirwg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Yn bianydd ac yn gyfansoddwr, enillodd radd BMus gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn King’s College, Llundain yn 2000, cyn cwblhau MPhil mewn Cerddoriaeth Electroacwstig ym Mhrifysgol Birmingham yn 2003.

Dros y flwyddyn ddiwethaf cwblhaodd y camau olaf ar gyfer doethuriaeth mewn Cyfansoddi Cyfoes ym Mhrifysgol Caerdydd, o dan arolygaeth y gyfansoddwraig Americanaidd, Dr Arlene Sierra, pan berfformiwyd ei waith gan amryw o gerddorion proffesiynol: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Rarescale, Exaudi, Pedwarawd Llinynnol y Carducci, Lontano, y delynores Catrin Finch a’r ffliwtydd Fiona Slominska.

Dyma’r ail dro iddo ennill Tlws y Cerddor ar ôl ei lwyddiant ym Mro Morgannwg yn 2012 gyda Cwyn y Gwynt, sonata i ffliwt a thelyn wedi ei hysbrydoli gan gerdd adnabyddus John Morris-Jones. Yn ogystal fe enillodd wobr am gyfansoddi darn i ffliwt alto a phiano ym Meifod y llynedd, ail wobr yn yr unawd piano yng Nglyn Ebwy yn 2010, gwobr am gyfansoddi gwaith i gerddorfa yng Nghasnewydd yn 2004 a thrydedd wobr yn yr unawd piano ym Meifod yn 2003.

Mae’n ymddiddori mewn chwedloniaeth Geltaidd (yn enwedig Pedair Cainc y Mabinogi, chwedloniaeth Arthuraidd a cherddi Taliesin), ac mae ganddo syniad i greu opera siambr newydd gyfoes, yn cyfuno lleisiau ac offerynnau, ynghyd â synau a phrosesau electronig.

Y beirniaid eleni oedd Jeffrey Howard ac Osian Llŷr Rowlands, a’r dasg oedd cyfansoddi pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gan fardd cyfoes.  Y wobr yw Tlws y Cerddor (Urdd Cerddoriaeth Cymru) a £750, yn rhoddedig gan Ysgolion Cymraeg ardal yr Eisteddfod er cof am Ruth Salisbury, Caerdydd a gyfrannodd yn helaeth tuag at ddatblygiad y Gymraeg yn yr ardal, ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa’r cyfansoddwr buddugol.

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan dywedodd Osian Llŷr Rowlands, “Y dasg a wynebai’r cyfansoddwyr eleni oedd cyfansoddi pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel.  Teimlai’r ddau ohonom, felly, yn gartrefol iawn yn y genre hwn. Daeth chwe ymgais i law gydag amrywiol arddulliau ac amrywiol safon a phob cyfansoddwr yn llwyddo i gyflwyno syniadau diddorol gan arddangos dawn greadigol.

“Roedd gan y cyfansoddwyr rwydd hynt i ddewis eu geiriau eu hunain ar gyfer eu gwaith, a chafwyd amrywiaeth o ddewisiadau: rhai yn dewis gwaith gan un bardd, eraill yn cyflwyno gwaith amrywiol feirdd, a chafwyd un gwaith lle mai’r cyfansoddwr oedd awdur y geiriau yn ogystal â’r gerddoriaeth.

“Deryn y Felys Gainc, ‘Eos un noson’: Pedair cerdd gan Llŷr Gwyn Lewis o’r gyfrol Storm ar Wyneb yr Haul i fariton-bas a gyflwynir yma a dyma gopi o safon broffesiynol sydd yn barod i’w gyhoeddi. Yn glyfar iawn, mae’r pedair cân wedi eu cysylltu i greu cadwyn o ganeuon a dyma gyfansoddwr aeddfed iawn sydd yn gwybod yn union beth y mae am i’r perfformwyr ei gyflwyno i’r gynulleidfa.

“Ceir disgrifiad manwl i esbonio hyn ar ddechrau pob symudiad, yn ogystal â chyfeirio at y motiff ar gyfer y symudiad penodol, er enghraifft cainc yr eos yn y gân gyntaf, ‘Eos un noson’, sianti fôr yn yr ail gân, ‘Rhagolygon y llongau’, ac efelychu ceinciau’r eos yn y gân olaf, ‘Philomela’. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn dangos yn glir i ni'r meddwl sydd wrth wraidd y cyfansoddiad cyffrous hwn.

“Ceir cyfeiliant diddorol iawn, a’r cyfarwyddiadau manwl i’r cyfeilydd yn glir iawn. Ceir strwythur cadarn i bob symudiad ac mae gofyn i’r cyfeilydd a’r cantor gydweithio i gyflwyno perfformiad llwyddiannus o’r gwaith hwn. Mae’n amlwg fod y cyfansoddwr hwn nid yn unig yn feistr ar y piano ond hefyd yn deall yn iawn sut i gyfansoddi ar gyfer y llais ac wedi meddwl yn fanwl am y cyfanwaith gyda defnydd effeithiol o themâu cryf a strwythur cadarn. Dyma bedair cân sydd yn creu cyfanwaith sy’n arddangos iaith gerddorol y cyfansoddwr ei hun.

“Mae hi’n agos iawn rhwng Sarian a Deryn y Felys Gainc, ond mae’r ddau ohonom yn hollol gytûn fod Deryn y Felys Gainc yn llawn haeddu Tlws y Cerddor eleni.”

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.