Hannah Roberts yw Dysgwr y Flwyddyn
4 Awst 2016

Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Hannah Roberts, Brynmawr. 

Fe’i hanrhydeddwyd mewn seremoni arbennig nos Fercher, yn dilyn cystadleuaeth o safon arbennig o uchel.  Cymaint oedd canmoliaeth y beirniaid, Elwyn Hughes, Sandra De Pol ac Angharad Mair, fel bod pump wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni am yr eildro.

Mae Hannah yn gweithio i Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy fel Swyddog Maes sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ym Mlaenau Gwent a Gogledd Sir Fynwy. Mae’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd a’r gymuned ac mae wrth ei bodd yn y swydd sy’n rhoi’r cyfle iddi hi ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ardaloedd hyn gan gynnwys ei chartref.

Daeth at y Gymraeg drwy ddamwain pan oedd adref un haf o’r brifysgol ac yn chwilio am ‘rywbeth’ i’w wneud. Mynychodd gwrs blasu gyda Chymraeg i Oedolion ac fe gafodd ei bachu gan yr iaith.

Aeth nôl i Brifysgol Aberystwyth a phenderfynu newid ei chwrs o Ddaearyddiaeth i gwrs ar gyfer dechreuwyr pur yn yr Adran Gymraeg. Bu hi’n byw ym Mhantycelyn ac fe gafodd brofiad da yno, ond bu’n rhaid iddi hi frwydro a dyfalbarhau i gael pawb i siarad â hi yn Gymraeg.

Felly dechreuodd Gymdeithas ar gyfer dysgwyr yn y Brifysgol er mwyn sefydlu amgylchedd lle gallai myfyrwyr ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg ac er mwyn hybu a hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr gymdeithasu yn Gymraeg.

Derbyniodd Hannah dlws arbennig a £300, yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent, ynghyd â thanysgrifiad blwyddyn i Golwg.  Bydd y pedwar arall yn y rownd derfynol yn derbyn

Y pedwar arall yn y rownd derfynol oedd Rwth Evans, Caerdydd, Rachel Jones, Llanfair-ym-muallt, Naomi O’Brien, Bedlinog a Sarah Reynolds, Caerfyrddin.

Derbyniodd y pedwar dlysau a £100 yr un, hefyd yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent.

Bydd cyfle i gyfweld Hannah yn y gynhadledd i’r wasg fore Iau.