Hefin Robinson yn ennill y Fedal Ddrama
4 Awst 2016

Hefin Robinson, sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin sy’n derbyn Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.  

Yn drydydd yn y gystadleuaeth ddwy flynedd yn ôl ac yn ail y llynedd, heddiw, fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn, a derbyniodd y Fedal gyda beirniadaeth ardderchog.

Cyflwynir y Fedal Ddrama am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.  Gwobrwyir y ddrama sy’n dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.  Mae Hefin Robinson yn derbyn Y Fedal Ddrama (er cof am Urien Wiliam, rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli). 

Y beirniaid eleni oedd Aled Jones Williams, Catrin Jones Hughes a Ffion Haf.  Traddodwyd y feirniadaeth o’r llwyfan gan Catrin Jones Hughes, a dywedodd, “Daeth 12 ymgais i law ac mae hyn yn galonogol. Roedd hi’n bleser clywed lleisiau newydd ym myd y theatr yng Nghymru a braf oedd profi gweledigaeth amrywiol y deuddeg. Mae hi wastad yn ddifyr clywed beth yw syniadau ein hysgrifenwyr am y byd ac yn arbennig, yn y gystadleuaeth hon, wrth i ambell thema a phwnc gael eu gwyntyllu mewn ffyrdd mor amrywiol gan gystadleuwyr gwahanol.

“Ar sawl ystyr, drama am ddrama a geir gan Thomas Jerome Newton yn ei ddrama ‘Estron’.  Mae’r ddrama’n llythrennol yn dod i fodolaeth o flaen ein llygaid a’r llwyfan yn fan y creu. Mae’r cyfan yn teimlo fel ffantasi. Cawn ein hanesmwytho. Chwelir y ffiniau rhwng llwyfan a set, rhwng actor a chymeriad, rhwng y sgript ar y llwyfan a’r sgript sy’n cael ei hysgrifennu o’n blaenau ar y cyfrifiadur. Defnyddir Skype fel y mae Beckett yn defnyddio’r tâp yn Krapp’s Last Tape.

“Mae yma ffresni beiddgar gan ysgrifennwr arbrofol, hyderus, nad yw’n ofni torri’r ‘rheolau’. Mae’n rhannol o ddifrif, rhannol tafod yn y boch, chwareus, prydferth, ond drwy’r cyfan yn llawn dychymyg. Dyma rywun sy’n gwybod sut i ddefnyddio’r gwagle theatrig a hefyd ei ddadstrwythuro. Gallwn weld ei photensial cyffrous o’i llwyfannu.

“Mae potensial yn ‘Man Gwyn - Fan Hyn’ a ‘Jenga’ ac er mor fyr yw ‘Top Coch’ mae rhywbeth ynddi sy’n gafael. Am ei hegni ifanc mae Yfa di dy goffi ... ’ yn codi uwchben y rhain ond ymhell ar y blaen mae ‘Estron’ ac ‘I ble’r ei di f’anwylyd?’ Byddai’r tri ohonom yn dra bodlon rhoi’r Fedal Ddrama i’r naill neu’r llall ond o drwch blewyn mae egni a beiddgarwch a digywilydd-dra theatrig ‘Estron’ yn cario’r dydd.

“Fodd bynnag, mae ‘I ble’r ei di f’anwylyd?’ yn brathu sodlau ‘Estron’ ac awgrymwn y dylai cwmni theatr edrych arni hithau.  Mae hi’n bleser gennym ni’n tri ddatgan, yn hollol gytûn, felly, y rhoddir y Fedal Ddrama eleni i Thomas Jerome Newton am ei ddrama ‘Estron’.”

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, derbyniodd Hefin Robinson ei addysg gynnar yn Ysgol y Dderwen ac Ysgol Bro Myrddin, cyn mynd ymlaen i astudio Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl graddio, gweithiodd fel actor mewn amryw o brosiectau theatr-mewn-addysg cyn symud i Stratford-upon-Avon i weithio gyda’r Royal Shakespeare Company, lle cafodd y cyfle gwerthfawr o wylio meistri wrth eu gwaith mewn sefydliad creadigol byd-enwog.

Wedi hyn, treuliodd amser yn Llundain er mwyn dilyn astudiaethau pellach yng ngwaith Shakespeare yn LAMDA. Ers dychwelyd i Gymru, mae wedi gweithio i gwmnïau amrywiol yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a BBC Worldwide. Erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Ganolfan Mileniwm Cymru ochr yn ochr â pharhau â’i waith ysgrifennu a theatr.

Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys cyfansoddi a chanu’r piano, arlunio, ymgolli ym myd natur, darllen, ffilm, mynychu’r theatr - a pizza!

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.