Guto Roberts yn ennill Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod
4 Awst 2016

Cyflwynir Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau i Guto Roberts, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Bu Guto Roberts yn ymwneud gyda Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1971, pan drefnwyd y babell gyntaf ar y Maes.  Wrth i bresenoldeb Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod ddatblygu a chynyddu dros y blynyddoedd, roedd cynlluniau Guto’n mynd yn fwyfwy uchelgeisiol, gan roi cyfle i genedlaethau o wyddonwyr ifanc i gael eu hysbrydoli gan fodelau , arddangosfeydd a theclynnau gwyddonol o bob math ar y Maes yn flynyddol.

Sicrhaodd Guto fod Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cael lle cymwys ar y Maes ac yn nhestunau’r Eisteddfod, a bu’n gwasanaethu ar bwyllgor canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod am ugain mlynedd yn ogystal.

Roedd Guto hefyd yn gyfrifol am roi’r rhaglen weithgareddau a darlithoedd at ei gilydd ar gyfer wythnos yr Eisteddfod, a bu’n allweddol i’r gwaith o sicrhau bod ymwelwyr i’r Eisteddfod yn cael gwybod am berthnasedd datblygiadau gwyddonol byd-eang i ni yma yng Nghymru, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Dyma’r cyfnod pan yr aethpwyd ati i hyrwyddo pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn yr Eisteddfod er mwyn ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr mewn astudio’r pynciau hyn yn y Gymraeg.

Yn wreiddiol o Ben Llŷn, astudiodd Guto ffiseg yn y brifysgol yn Aberystwyth, lle bu’n rhan o’r gymuned a chymdeithas Gymraeg yn y coleg, gan gyd-arwain ymgyrch lwyddiannus i sefydlu neuadd breswyl Gymraeg yn y coleg, a chyda Iolo ap Gwynn a’r diweddar Dyfrig Jones, sefydlodd Gymdeithas Wyddonol Aberystwyth, y gymdeithas wyddonol Gymraeg gyntaf.

O’r coleg aeth i ddysgu Ffiseg ym Mholytechnig Cymru, Pontypridd, ac erbyn ei ymddeoliad yn 2000, roedd yn bennaeth grŵp Ffiseg Prifysgol Morgannwg.  Treuliodd ei gyfnod yn dysgu, ymchwilio, arwain grwpiau ymchwil a chyhoeddi, gan edrych yn arbennig ar briodweddau nwyon dan wasgedd isel, cynhesu dŵr gydag egni’r haul gan ddefnyddio tiwbiau dan wasgedd isel a gwyddor offer a rheolaeth.

Bu hefyd yn Brif Arholwr Safon Uwch Ffiseg Cyd-bwyllgor Addysg Cymru yn y 90au, yn is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd yn 1991, ac roedd yn un o’r rhai a sefydlodd y fenter iaith yn Rhondda Cynon Taf.  Ef oedd cadeirydd cyntaf y fenter a bu’n ymddiriedolwr am dros ugain mlynedd.