Aneirin Karadog yn ennill Cadair yr Eisteddfod
5 Awst 2016

Aneirin Karadog o Bontyberem yw enillydd Cadair yr Eisteddfod eleni, ac fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn heddiw. 

Eleni cyflwynwyd y Gadair am ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau dan y teitl ‘Ffiniau’.  Y beirniaid oedd Tudur Dylan Jones, Cathryn Charnell-White a Meirion MacIntyre Huws.

Denodd y gystadleuaeth naw ymgeisydd, ac roedd y tri beirniaid yn agos at ei gilydd o ran trefn y naw yn y gystadleuaeth, ac wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan dywedodd Tudur Dylan Jones, “Tad Diymadferth? ydy’r ffugenw, efo marc cwestiwn ar y diwedd.

“Cerdd agoriadol y dilyniant ydy ‘Gwyr a Aeth Catterick Barracks’. Tad sy’ ma yn gyrru’i fab mewn car i fod yn filwr. ‘Gyrru’i fab i gwr ei fedd/a’r gyrru’n ddidrugaredd.’ Mae’r tad yn erbyn hyn, ond y mab yn benderfynol o fod yn filwr. Mae’r tad yn gweld y darlun cyflawn, ac yn gweld mai rhyfel sy’n achosi’r rhan fwyaf o broblemau’r byd fel newyn a sefyllfa’r ffoaduriaid sy’n gorfod croesi môr i ddarganfod lloches. ‘Meistri creulon yw’r tonnau, a’r ewyn yn dynn ei gadwynau,a’r heli’n cloi’r hualau oer o ddwr nad yw’n rhyddhau.’

“Rydym ni’n gweld safbwyntiau gwahanol yn y cerddi, y tad, y mab, y ceiswyr lloches, y gwleidyddion, a mae ’na hefyd adlais bwriadol o awdl ‘Y Gwanwyn’ Dic Jones. Mae fferm yr Hendre yn ffinio efo Maes Awyr Aberporth, lle maen nhw’n ymarfer hedfan yr Adar Angau, sef y drons sy’n cael eu defnyddio i ladd. Lle roedd Dic Jones yn gweld aderyn heddwch, Adar Rhyfel sydd uwchben yr Hendre erbyn hyn: ‘Y mae’n Glamai, ond nid mwyn golomen/a ddaw heibio’n fflio’n wyn ei phluen./Hebog llygadog sy’n hel llygoden/deryn a chwennych y drin a’i chynnen/a gwaed o’i big i’w aden; - troi’n ddi-hoe/a chonfoi ei sioe uwch henfaes awen.’

“Mae’r gerdd olaf, ‘Dros blant ein plant’ yn darlunio’r tad yn anobeithio fod ei fab yn gyfrifol am ladd pobl. Mae’n ei gweld hi’n anodd torri cylch dieflig rhyfel. Mae Tad Diymadferth? wedi rhoi llwyfan i rai o ofnau dyfnaf unrhyw riant. Maen nhw’n gerddi sy’n gwneud i ni feddwl. Maen nhw’n ein hannog ni i gyd i beidio â bod yn ddiymadferth.

“Mae na rinweddau pendant yng ngwaith Mared, Brynglas a Broc Môr. Ond rhwng Siac a Tad Diymadferth? oedd hi eleni. Mae hi’n hanner can mlynedd ers i Dic Jones gael ei gadeirio yn Aberafan, a’r gadair fel y clywson ni yn cael ei rhoi er cof amdano gan Jean a’r teulu, a byddai Dic yn fwy na neb arall yn falch o glywed fod yma gadeirio, a bod y tri ohonon ni’n unfrydol yn dyfarnu fod Tad Diymadferth? yn gwbl deilwng o Gadair yr Eisteddfod.”

Mae Aneirin Karadog yn astudio am radd Doethur mewn ysgrifennu creadigol Cymraeg yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Mae hefyd yn gweithio fel bardd a darlledwr llawrydd. Fe’i ganed yn Llanrwst, ond treuliodd ei flynyddoedd cynnar ym Mhontardawe cyn i’r teulu symud i ardal Pontypridd lle cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydfelen. Aeth ymlaen wedyn i raddio mewn Ffrangeg a Sbaeneg yn Y Coleg Newydd, Rhydychen. Taniwyd ei ddiddordeb mewn ieithoedd yn gynnar gan iddo gael ei fagu ar aelwyd amlieithog lle roedd ef a’i frawd yn siarad Cymraeg, Llydaweg a Ffrangeg.

Mae Aneirin wedi ennill amryw o wobrau am farddoni, gan gynnwys Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004, Cadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd yn 2005,  a chystadleuaeth y delyneg yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro 2011. Fe enillodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas), y categori barddoniaeth yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2013 ac mae newydd gyhoeddi cyfrol newydd o gerddi, Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas).

Mae Aneirin yn talyrna gyda thîm Tir Iarll a thîm ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol, Y Deheubarth. Mae’n hynod o falch o fod wedi cael treulio dwy flynedd yn crwydro’r wlad fel Bardd Plant Cymru 2013-2015 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi i blant y llynedd, sef Agor Llenni’r Llygaid (Gomer). Bu’n wyneb cyfarwydd am bron i ddegawd ar raglenni teledu dyddiol Wedi 7 a Heno, ac ar raglenni Sam ar y Sgrin ac Y Barf. Bu hefyd yn rapiwr gyda’r grwpiau Hip-hop, Y Diwygiad, Genod Droog a’r Datgyfodiad.

Mae’n byw bellach ym Mhontyberem gyda’i wraig, Laura, a’i ferch, Sisial, ac mae brawd neu chwaer fach i Sisial ar y ffordd. Mae’r dilyniant o gerddi ar gyfer y Gadair yn adwaith i ddau beth: bod yn dad i ferch bedair oed a darpar dad i fabi newydd, a’r flwyddyn gythryblus rydyn ni wedi ei phrofi yn fyd-eang o ran rhyfela a therfysgaeth; ac o weld rhethreg gwleidyddion yn mynd yn fwy eithafol, daw teimlad o fod yn ddiymadferth yn wyneb y grymoedd hyn. Arweinia hyn oll at boeni am y math o fyd y bydd ein plant yn ei etifeddu gennym.

Eleni, mae’n hanner canrif ers i Dic Jones ennill y Gadair yn Eisteddfod Aberafan am ei awdl ‘Y Cynhaeaf’, ac i nodi’r achlysur, cyflwynir y Gadair eleni gan ei deulu er cof am y bardd.  Rhoddir y wobr ariannol er cof am Islwyn Jones, Gwenfô, Caerdydd.

Un a fu’n ymweld yn aml â’r Hendre, cartref Dic Jones, oedd Emyr Garnon James, a’r crefftwr hwn, sydd hefyd yn bennaeth Adran Dylunio a Thechnoleg Ysgol Uwchradd Aberteifi, a ddewiswyd gan y teulu i gynllunio a chreu Cadair Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.

Roedd Emyr Garnon James yn arfer galw yn Yr Hendre a gweld Cadair Aberafan yn y gornel, ac wrth gychwyn ar y gwaith ac wrth feddwl am Dic a siarad gyda’r teulu, roedd un peth yn bendant - cadair ddi-ffws fyddai Cadair Eisteddfod 2016 - a’r pren fyddai’r prif atyniad.  Dychwelodd i’r Hendre i weld Cadair 1966.  Roedd hi’n gadair gyfoes iawn ar y pryd a hithau hefyd yn ddi-ffws, gyda’r pren yn drawiadol a hardd.  Dewisiodd weithio gyda phren Ffrengig du, a chreu cynllun syml gyda llinellau syth, cynllun y byddai Dic ei hun wedi’i werthfawrogi.

Bu gweithio gyda’r pren yn brofiad arbennig i Emyr, a dysgodd sut i gastio efydd i mewn i’r pren er mwyn creu’r ysgrifen a’r Nod Cyfrin.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn y seremoni hon, sef prif seremoni olaf yr wythnos.